MR. RICHARD R. EVANS. COEDMAWR, CAMBRIA, WISCONSIN.

Mawrth 28ain, 1897, yn nhŷ ei frawd, Eli R. Evans, Coedmawr, ger Cambria, Wisconsin, Richard R. Evans yn 63 mlwydd 10 mis oed.

Ganwyd ef yn Ty Newydd Isaf, Coetmor, Dolyddelen Arfon Gogledd Cymru. Enwau ei rieni ydoedd Robert ac Ann Evans - ei fam yn ferch Owen Cadwaladr, ac yn chwaer i Cadwaladr Owen, yr hen bregethwr doniol o Dolyddelen.

Ymfudodd Richard R. Evans i'r wlad hon yn 1856, ac ar y lOfed o Fedi, 1870, yn Denver, Colorado, priododd Miss Jane E. Jones, geneth i William a Catherine Jones, Penlan ger Cambria, Wisconsin, yr hon fu farw tua wyth mlynedd yn ôl, yn nhy ei chwaer, Mrs. Kate Williams, priod John Williams, Cambria. Yr oedd ganddo ef dri brawd a dwy chwaer yn y wlad hon - y brawd hynaf, Evan R. Evans, yn aros yn bresenol gyda'i frawd Eli yn Coed-mawr, a Robert R. Evans yn Marshall County, South Dakota; y ddwy chwaer ydynt Mrs. Catherine Roberts, priod Owen M. Roberts, Columbus, Wisconsin, a Mrs. Ellen Evans, Winfieid, South Dakota. Bu un brawd iddo farw yn Cambria, ryw dair blynedd yn ôl, sef John R. Evans.

Plastrwr oedd Richard R. Evans, ac yn weithiwr deheuig dros ben; yn ddyn hynod garedig, ac yn ddarllenwr mawr. Bu yn athraw ffyddlawn a defnyddiol yn yr Ysgol SabbothoI am fiynyddoedd meithion, ac yn aelod o eglwys Dduw. Cymerwyd ef ymaith yn sydyn o glefyd y galon. Gadawodd un mab i alaru ar ei ôl, sef William R. Evans.

Claddwyd ef yn mynwent Cambria yn ymyl ei briod, ar y 30ain, y Parch. E. Morgan yn gweinyddu.

Y Drych ~ Ebrill 29ain 1897.