MR. ROBERT EVANS. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.

Ionawr 13eg, 1897, yn Plymouth, Pennsylvania, yn 30 mlwydd oed, o'r typhoid fever, Robert Evans, yr hwn ddyoddefodd gystudd blin am dair wythnos. Cafodd bob gofal gan ei briod hoff a chan feddygon goreu y lle, ond yn ofer.

Ar y 15fed daeth tyrfa i dalu iddo y gymwynas olaf, y Parch. Mr. Day yn gweinyddu. Claddwyd ef ar Turkey Hill.

Mab ydoedd yr ymadawedig i John a Margaret Evans, Cae'r Drain, Ffestiniog. Gadawodd yn alarus ar ei ôl briod dyner; un brawd,, sef William Evans. Milwaukee, Wisconsin, ei chwaer, Margaret, yn Michigan, a mam a thair chwaer, Jane, Ann a Hannah yn Nghymru. Nid wyf yn gwybod am deulu mor lluosog a theulu Robert Evans o ochr ei dad a'i fam, a bydd yn ergyd drom iddynt glywed am farwolaeth Robert.
J. H. D.

Y Drych ~ Chwefror 4ydd 1897.