MRS. CATHERINE GRIFFITH. RACINE, WISCONSIN.

Mehefin 17eg, 1897, yn Racine, Wisconsin, Catherine Griffith, gweddw William Griffith, llongwr, yn 75 mlwydd oed.

Ymfudodd y teulu o Portmadoc, Gogledd Cymru, i'r lle hwn yn y flwyddyn 1851. Bu ef farw ddeuddeg mlynedd yn ôl. Arferai hwylio ar y llynau gyda y gwahanol capteiniaid Cymreig o'r porthladd hwn.

Yr oedd Mrs. Griffiths yn cael ei pharchu yn fawr gan ei holl adnabyddion a'i chymdogion o herwydd ei boneddigeiddrwydd a'i sirioldeb. Bu yn aelod crefyddol dros ei hoes yn nghyfundeb y Bedyddwyr, a chan nad oes yma eglwys Gymreig ymaelododd a'r eglwys Saesneg. Bu farw yn dra sydyn.

Gadawodd y mab hi yn y bore i fyned at ei waith yn y mwymhad o'i hiechyd arferol, ond wedi iddo ddychwelyd yn yr hwyr, cafodd ei fam yn lled-orwedd ar y gwely wedi huno yn yr angeu.

Claddwyd hi o'i thy ar yr 21ain, pryd y daeth nifer mawr yn nghyd o'i hen gyfeillion a'i chymydogion.

Gwasanaethwyd gan y Parch. Mr. Chenney, Bedyddiwr.

Y Drych ~ Gorphenaf 1af 1897.