MRS. ELINOR JAMES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Remsen, Ebrill 20fed, 1848, ar ôl cystudd maith, Mrs. Elinor James, gweddw y diweddar John James, Penymynydd, Steuben. Yr oedd yn un o'r hen breswylyddion yn Steuben, — brodor o blwyf Bryncroes, Lleyn, – wedi ymfudo i America yn y flwyddyn 1800 — yn aelod er's ychydig o flynyddoedd o'r eglwys Gynulleidfaol, Penymynydd.Claddwyd hi wrth ochr ei phriod yn monwent yr ardal lle y bu yn byw dros lawer o flynyddoedd, a phregethwyd ar yr achlysur gan R. Everett a M. Roberts, oddiwrth destynau a nodid ganddi er's cryn amser, sef, Preg. 12.: 1 a Heb. 4: 9.