MR. JOHN GRIFFITH, BRYN TREFGRAIG LLANGWNADL.

On the 12th inst., at Penlan Chapel, Pwllheli, a few days prior to their emigration to America, Mr John Griffith, Bryn Trefgraig, Llangwnadl, to Miss Ellinor Hughes, of Cors beila, Bryncroes.

North Wales Chronicle May 4th 1847


MR. JOHN GRIFFITH, BRYN TREFGRAIG LLANGWNADL.

Tachwedd 25ain, 1897, yn dra annysgwyliadwy, er ei fod yn gwanychu er's amser, John Griffith, Bangor, La Crosse Co., Wisconsin, yn 78 mlwydd oed.

Ganwyd ef Medi, 1819, yn Bryn-trefgraig, Llangwnadl, un o'r parthau mwyaf gorllewinol o Llanarth, Lleyn, Sir Gaernarfon, o rieni parchus a chrefyddol.

Yn 1847 priododd Ellen Hughes, merch y diweddar Cornelius Hughes, yr hwn oedd yn adnabyddus fel saer cywrain a didwyll.

Fe anwyd iddynt chwech o blant. dau yn unig o'r rhai sydd wedi goroesi eu tad, Mrs. Roberts, priod Roberts, yr arwerthwr, a John Griffith, sydd yn amaethu ar y tyddyn a feddent hwy gynt yn Fish Creek.

Yn 1849 ymfudodd y teulu i ardal Remsen, New York, lle y buont hyd 1855. Trwy i John Wheldon ac eraill o'i gydnabyddion ddyfod i ddyffryn La Crosse, beth amser cyn hyny, penderfynodd John Griffith ddyfod hefyd "i weled ansawdd y wlad." Prynodd y tyddyn a fu wedi hyny yn "fangre ei breswylfod" hyd o fewn rhyw bedair blynedd yn ôl. Symudodd y teulu yn fuan ar ei ôl; a buont yn ddiwyd ac ymdrechgar i sicrhau cartref llawn a chlyd. Yr oedd yr ymadawedig er yn ieuanc yn aelod o'r Cynulleidfaolwyr.

Ymunodd ag eglwys enwog Hebron, Lleyn; a bu yn aelod defnyddiol o eglwys Annibynol Capel Uchaf, Remsen, New York, lle y gweinidogaethai yr enwog a'r anwyl Dr. Everett.

Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn sefydliad yr eglwys Gynulleidfaol yn Bangor yma, ac wedi hyny ar gychwyniad yr un yn Fish Creek. Gobeithio ei fod heddyw yn yr eglwys fry.

Caffed Mrs. Griffiths yn ei hunigedd a'i gweddwdod amddiffyniad yr Hwn a ddywedodd, "Ac ymddirieded dy weddwon ynof fi;" a Duw ein tadau fyddo yn Dduw i'w hiliogaeth "hyd genedlaeth a chenedlaeth."

Daeth tyrfa yn nghyd ar y 29ain i dalu y gymwynas olaf i'r ymadawedig, pryd y gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. Henry Davies, John J. Vaughan a J. S. Wilson.

Y Drych ~ Rhagfyr 23ain 1897.