MRS. ELEANOR M. GRIFFITHS. RACINE, WISCONSIN.

Mai 13eg, 1897, yn Racine, Wisconsin, yn 75 mlwydd a 9 mis oed, o effeithiau y parlys, Mrs. Eleanor M. Griffiths.

Ganed hi mewn amaethdy o'r enw Bwlch Derwyn, plwyf Clynnog, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, Awst 19eg, 1821. Enwau ei rhieni oedd John a Margaret Williams.

Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1828, pan nad oedd ein gwrthrych ond tua saith mlwydd oed. Sefydlasant yn Utica, New York. Yn mhen o gylch tair blynedd wedi eu dyfodiad drosodd bu y tad farw.

Tra yn aros yn y lle a enwyd;, ymunodd Mrs. Griffiths mewn priodas â William M. Griffiths, yr hwn oedd o ardal Llanystumdwy, yn yr un Sir yn Nghymru. Yn y flwyddyn 1846 daethant i wladychu yn Ixonia, Wisconsin. Prynasant fferm yno.

Bu Mr. Griffiths, farw yn dra sydyn yn 1878. Yn ganlynol, symudodd y teulu i Oconomowoc yn 1882; ac yn 1892 daethant i Racine. Teimlodd y fam hon yn Israel ddylanwad daionus crefydd pan ydoedd yn dra ieuanc.

Proffesai ei rhieni gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond ymunodd hi a'r frawdoliaeth Annibynol pan yn 15 oed; a "dylynodd broffes dda," gyson a difwlch o hyny hyd ei bedd.

Adnabyddid hi fel un yn meddu synwyr cryf, tymer hynaws, ymddygiad boneddigaidd a rhinweddol. Yr oedd yn hynod o ofalus a gochelgar gyda'i hymadroddion; ac yn benaf oll, yr oedd ei duwiolfrydedd a'i pharch i ordinhadau crefydd uwchlaw ameuaeth. Yr oedd yn wraig uwchraddol yn mhob golygiad. Dyoddefodd gystudd poenus; ond yr oedd yn dawel ac ymostyngol i ewyllys ei Harglwydd. "Tangnefedd heddychol" oedd ei diwedd. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol prydnawn Sabboth yr 16eg, pryd y gweinyddwyd yn Gymraeg a Saesneg gan y Parchn. James McLaren a Thomas Evans. Dygwyd ei gweddillion dranoeth i Ixonia, i'w daearu yn ochr ei phriod.

Gadawodd bump o blant - tri mab a dwy ferch, i alaru a theimlo eu chwithdod am dani. Brawd iddi ydyw William Williams, Hamilton, New York. Yr oedd y "Drych" a'r "Cenhadwr" yn dyf- od i'r teulu er's lluaws mawr o flynyddoedd, ac yn cael eu darllen yn fanwl.

Cysgod a dyddanwch y Goruchaf fyddo dros y plant, yn enwedig y ddwy ferch ydynt mor ddigartref.
S. EVANS.

Y Drych ~ Mehefin 3ydd 1897.