MRS. GWEN GRIFFITHS. WASHINGTON, CARROL COUNTY, MISSOURI.
Hydref 13eg, 1897, yn Washington Township, Carrol County, Missouri, Gwen, priod Griffith Griffiths, yn 53 mlwydd a chwe mis oed.Ei hafiechyd oedd y dyfrglwyf. Ganwyd hi yn Llanegryn, Meirion, Gogledd Cymru. Ei rhieni oeddynt Owen a Martha Jones, a bu ef yn ben melinydd yn melin Peniarth.
Yn 1858 daeth y teulu i America, gan ymsefydlu yn Racine, Wisconsin. Yn mhen rhyw ychydig amser wedi dyfod derbyniwyd Mrs. Griffith yn gyflawn aelod o eglwys y Cynulleidfaolwyr Cymreig, o'r hon yr oedd ei thad yn ddiacon, a'r Parch. Evan Griffith, ei chyn-weinidog yn Nghymru, yn weinidog eglwys Racine ar y pryd.
Yn ngwanwyn 1861 ymbriododd gyda Griffith Griffiths, y Parch. William Hughes yn gweinyddu. Yn mhen ysbaid symudodd hi a'i phriod i Dalaeth Missouri, lle y buont yn llafurus gyda'r byd er gwneyd cartref cysurus, ac yn hyn buont yn dra llwyddianus. Tra, y parhaodd yr achos Cymreig gan y T. C. yn Low Gap buont yn aelodau ffyddlon o'r eglwys hono; ac yn herwydd ei hawydd am fod yn gyfleus i foddion Cymreig, ac hefyd am fod sefyllfa ei hiechyd mor anffafriol, daethant i'r penderfyniad i symud i Racine, lle y mae mam Mrs. Griffiths a thair o chwiorydd yn byw.
Yr oeddynt wedi gwerthu yr eiddo oedd ar y fferm ac wedi ei hardrethu i gymydog; a'r diwrnod y bwriadasant symud y dygwyd ei gweddillion i Racine. Wedi nychu am fisoedd daeth y diwedd yn lled ddisymwth, ac yn lle cael gweled ei pherthynasau, y rhai a hiraethent yn fawr am ei gweled, cafodd fyned i gwmni ei cheidwad ag y bu yn ei wasanaethu am dymor maith.
Cynaliwyd gwasanaeth crefyddol yn y tŷ cyn cychwyn am Racine, a daeth nifer mawr o gymydogion i hebrwng y gweddillion hyd at orsaf y reilffordd. Cyraeddwyd Racine erbyn canol dydd y 15fed, a gwasanaethwyd yn hynod bwrpasol yn y Cemetery Chapel gan y Parch. Robert T. Roberts, M. A., a chanodd pedwarawd yn dra effeithiol.
Heblaw ei phriod a'i dau fab ac un ferch, y mae ei mam oedranus, pedair o chwiorydd ac un brawd yn alarus ar ei hol.
T. LI. W.