MR. WILLIAM R. GRIFFITHS. PHILADELPHIA, PENNSYLVANIA.
Hydref 2ail, 1897, yn Philadelphia, Pennsylvania, yn 38 mlwydd oed, William R. Griffiths, saer.Ganwyd of yn Garth, Llanwnda, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon tua 14 o flynyddoedd yn ôl. Bu yn cartrefu yn Utica, Chicago a Denver, Colorado, cyn dyfod gyda'i briod i'r ddinas hon tua dwy flynedd yn ôl.
Ei brif nodweddion oedd ei ysbryd amyneddgar a chalon llawn o garedigrwydd - bob amser yn ymhyfrydu mewn croesawu cyfeillion. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r eglwys Gymreig, ac yn un o'r ymddiriedolwyr.
Teimlir colled dirfawr ar ei ôl. Claddwyd y rhan farwol o hono y dydd Sul canlynol i'w farwolaeth yn Glenwood Cemetery. Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan ei Weinidog, y Parch. John R. Evans.
Yn galaru ar ei ôl y mae ei wraig — gynt Miss Nellie Parry, yn y ddinas hon, mam weddw, brodyr a chwiorydd yn yr Hen Wlad, ac un brawd, sef Richard, yn Denver, Colorado.
Barnwr y gweddwon a thad yr amddifaid fyddo yn gysur iddynt yn eu profedigaeth.