MRS. CATHERINE HUGHES. BETHEL, COLUMBUS, WISCONSIN.
Hydref 14eg, 1897, ar ol cystudd maith a phoenus, bu farw Mrs. Catherine Hughes, anwyl briod Mr. Henry Hughes, Bethel. Columbus, Wisconsin, yn 55 mlwydd a 5 mis oed.Ganwyd hi yn Uwchlaw-y-ffynon. Sir Gaernarfon, Mai 20fed, 1842. Merch ydoedd i'r diweddar Barch. Robert Hughes. o'r lle a enwyd, oedd mor adnabyddus yu Nghymru fel pregethwr, bardd ac arlunydd.
Fel y gallesid dysgwyl, cafodd hi ei dwyn i fyny yn ofalus ar lwybrau crefydd o'i mebyd; a diau i addysgiadau a gweddiau ei rhieni brofi yn foddion i'w dwyn i gymundeb a'r Gwaredwr, ac i undeb a'r teulu ysbrydol — yr undeb nas gall llaw angeu ei ddatod. Yr oedd ei ffyddlondeb yn ngwasanaeth yr Iesu, ei dyfalwch i ddylyn moddion gras, astudrwydd ei hysbryd yn ymarfer yr ordinhadau, a'i phrofiad goleu ac addfed, yn tystio yn eglur ei bod yn Israeliad yn wir. Bu yn ymgartrefu gyda ei thad nes cyraedd o gylch ugain oed.
Yn Mai 1862, seliwyd cyfamod priodasol rhyngddi a Mr. Henry Hughes. Cwmcoryn. Llanaelhaiarn, Sir Gaernarfon, yr hwn a brofodd yn fwyniant a dyddanwch i'r ddau nes i law angeu ei ddiddymu.
Yn y manau y bu yn aros pan yn Nghymru hynododd ei hunan yn ei medr fel amaethwraig, trwy enill y gwobrau blaenaf am wneyd ymenyn, caws, a.y., pryd yr oedd llawer o'r goreuon yn cystadlu.
Uwchlaw hyny, yr oedd ei chrefyddolder a phurdeb ei chymeriad yn swyno pawb i'w hanrhydeddu. Yr oedd hi felly yn fedrus yn mhethau y ddau fyd.
Oddeutu pedair blynedd yn ol ymfudodd gyda nifer o'r plant i America, gan ymsefydlu yn Franksville, gerllaw Racine. Wisconsin, lle yr oedd ei phriod yn flaenorol. Ar ol treulio rhyw naw mis yno, symudodd y teulu i ardal Bethel, Columbus, lle y treuliodd ei blynyddau olaf yn ymroddgar a diwyd, fel priod ffyddlon a mam dyner yn y teulu, ac fel aelod hardd a dichlynaidd yu eglwys Bethel. Gwnaeth le mawr a chynes iddi ei hunan yno, gan adael tystiolaeth yn meddyliau pawb ei bod yn meddu gwreiddyn y mater.
Gwelodd aml a blin drallodau yn ymweliadau angeu, fel teulu dyn yn gyffredin. Cymerwyd pump o blant tyner o'i mynwes yn irder babandod, ac un bachgen ieuanc hawddgar 17 mlwydd oed, pryd yr oedd ei serch wedì ymblethu am dano yn y modd tyneraf. Gwelodd gladdu ei rhieni, oedd mor anwyl ganddi, yn gystal a pherthynasau eraill; ond mewn amynedd a gras aeth trwy yr oll heb ymddyrysu na dweyd dim yn ynfyd yn erbyn yr Arglwydd.
Ei hafiechyd olaf oedd cancer of the stomach, yr hwn a fu yn ei phoeni o gylch blwyddyn cyn ei marwolaeth. Darostyngwyd hi i gyflwr adfydus iawn yn ei misoedd diweddaf, gan ei bod yn analluog i gymeryd nemawr ddim lluniaeth. Yn ei phoen a'i gwendid yr oedd tawelwch ymostyngar ei hysbryd yn nodedig hyd y diwedd. Bryd bynag yr ymholid am ei theimlad canmolai fod ei Harglwydd mor dda wrthi yn ei holl gystudd. Y chwithdod penaf y cwynaî oddiwrtho oedd colli breintiau cyhoeddus y cysegr. Ei phrofiad pan yn ymyl y glyn oedd yr emyn:
"Mae mwy o bleser yn ei waith
Na dim a fedd y ddaear faith."
Pan ddygodd y ferch swp o rawnwin iddi yn agos i'r terfyn, dywedai, "O, ie, grapes ydynt, tebyg i'r rhai a fwynhai Israel gynt." Yna crybwyllodd yr hen emyn mewn tynerwch:
"Sypiau grawnwin mawrion addfed
Sy'n dy aros yn y tir,"
ac ychwanegal, "Yr wyf yn sicr fod fy nhad yn eu mwynhau yno yn awr, a gall ei fod yn galw sylw fy mam hefyd at ei pereidd-der." Aeth i lawr yn raddol o ddydd i ddydd, gan weithredu ffydd ac amynedd hyd y diwedd. Yn ei gwendid mawr ar fin y glyn un diwrnod, ceisiai sibrwd canu mewn gorfoledd: "Bryniau Canaan ddaw i'r golwg yn y man." Tynodd ei hanadl olaf hwyr ddydd Iau, Hydref 14eg, gan adael ar ei hol briod galarus, un mab a phump o ferched yn Wisconsin, oll yn ceisio gweini arni yn ei chystudd.a dwy o ferched wedi priodi, yn ymgartrefu yn Nghymru.
Pan oedd hi yn llithro ymaith o gyraedd ei hanwyliaid yn niwl y glyn, ymddangosai yn eglur fod y Brawd a'r Cyfaill goreu ei hunan wrth law i'w harwain i'r etifeddiaeth trwy yr Iorddonen.
Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y ty, yn y fynwent, ac yn yr addoldy, gan y Parch. John R. Jones, pryd y pregethodd oddiwrth 2 Pedr 1: 11. Bydd ei lle yn wag iawn yn y teulu, a theimlir chwithdod am dani yn yr eglwys, gyda ei phrofiad gwylaidd ac addfed.
Bydded amddiffyn y nefoedd dros ei phriod a'i phlant yn eu hiraeth, a blagured ei rhinweddau yn ei hiliogaeth am genedlaethau.