MR. JAMES HUGHES. SOUTH WILKESBARRE, PENNSYLVANIA.
Chwefror 24ain, 1897, yn South Wilkesbarre, Pennsylvania, yn 58 mlwydd a 6 mis oed, James Hughes, ar ôl dyoddef am tua dwy flynedd gan y miner's asthma, er heb fod yn orweddog ond am tua thri mis. Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r M. C. a theimla yr ardal a'r eglwys golled ar ei ôl.Claddwyd ef yn y City Cemetery, y Parchn. J. T. Lloyd a D. C. Edwards yn gweinyddu yn absenoldeb ei weinidog.
Ganwyd, Mr. Hughes yn Ysgubor Wen, ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad yma yn 1866, gan ymsefydlu yn Vermont; ond yn ddiweddarach symudodd i Wilkesbarre, lle yr ymbriododd gyda gweddw John Lewis.
Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gweithioidd flynyddoedd yn nghymydogaeth Ashley. Gadawodd weddw i alaru am briod hoff, tyner a darbodus. Hefyd y mae iddo gefnder yn Edwardsdale, sef Hugh H. Hughes, a chefnder yn Yonkers, New York, Joseph G. Jones, a dwy chwaer yn Nghymru - Miss Ellen Hughes a Mrs. Mary Owens, gwraig weddw yn byw yn Llandegfan, Môn.
Bu yn dderbyniwr cyson o'r "Drych" am tua ugain mlynedd, ac yr oedd yn edmygwr mawr o hono.
Duw fyddo yn ôl ei addewid yn farnwr i'r weddw ac yn ei hamddiffyn yn ei thrallod, ac yn gysur i'r perthynasau oll yn y brofedigaeth.