HON. ROBERT HUGH HUGHES, CAMBRIA, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Born at Llanuwchllyn, Merionethshire, Wales, December 20th, 1832.His parents were named Hugh and Ann Hughes and were among the old settlers of Blue Earth county, Minnesota. He emigrated with his parents to the vicinity of Utica, N. Y., in the spring of 1846.
Thence he removed to Nelson, Madison county, N. Y. He was married to Miss Hannah Bumford, daughter of William Bumford, Esq., of Utica, N. Y., in October, 1853. In 1854 they removed to Cambria, Wisconsin, where they resided until 1862 when they came to Blue Earth county, Minnesota, arriving in the town of Judson where they located on a farm on the 6th day of September of that year. In 1865 he removed to his present farm in the town of Cambria.
Mr. Hughes is a man of good ability and has always taken a very active part in the political affairs of his community, and has almost continuously held office in his municipality — for eighteen years he has been on the board of supervisors—generally as chairman, twenty-five years he was justice of the peace. Twice he was elected member of the state legislature—in 1874 and 1875.
His children are Mrs. Mary A., widow of Rev. David D. Jones, Tracy, Minnesota, Hugh H. Hughes of Lyon county, Wm. F. and Byron Hughes, lawyers, of Mankato, Minn., Mrs. Amelia Harris, wife of Evan E. Harris of Cambria, Minn., Ernest and Llewelyn Hughes of the same place.
Hanes Cymry Minnesota, Foreston a Lime Springs, Iowa.
ANRH. ROBERT HUGH HUGHES, CAMBRIA, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Marwolaeth Brodor o Lanuwchllyn yn Mhlwyf Cambria, Minnesota.Yn mhlwyf Cambria, Minnesota, Medi 27ain, 1897, pan yn agos i bump a thri ugain oed, bu farw yr Anrh. Robert H. Hughes.
Ganwyd ef yn ardal Llanuwchllyn, Sir Feirionydd, Rhag. 20fed, 1832. Enwau ei rieni oeddynt Hugh ac Ann Hughes, ac yr oeddynt yn mysg y sefydlwyr Cymreig cyntaf yn Swydd Blue Earth, Minnesota. Daeth Robert gyda'i rieni o'r Hen Wlad i ardal Utica, Efrog Newydd, yn ngwanwyn y flwyddyn 1846. Symudasant oddiyno i Nelson, Swydd Madison, yn yr un Dalaeth.
Yn Hydref, 1853, ymunodd mewn priodas a Miss Hannah Hughes, merch i William Hughes, Utica, New York. Yn mhen blwyddyn ar ol hyn symudasant i Cambria, Wisconsin, lle yr arosasant hyd 1862, pryd y symudasant i Blue Earth, Minnesota, gan ymsefydlu ar ffarm yn Mhlwyf Judson. Yn mhen tua thair blynedd ar ol hyn symudasant i blwyf Cambria, yn yr un Sir; ac yno ar fferm dda y bu y teulu yn byw am flynyddau lawer. Ychydig flynyddau yn ol bu Mrs. Hughes farw er dirfawr golled i'w phriod, ei phlant, ac eraill. Effeithiodd hyn yn ddirfawr ar Mr Hughes, a chyn bo hir iawn dechreuodd ei iechyd wanhau, a pharhau i wanhau a wnaeth i'r diwedd.
Y tro cyntaf erioed i mi ei weled yr oedd yn ddyn corffol a graenus yr olwg arno; ond at ddiwedd ei oes yr oedd wedi teneuo yn ddirfawr, ac yn edrych yn hynach nag oedd. Ychydig gyda blwyddyn yn ol gwerthodd ei fferm a phrynodd le bychan yn agos i gapel Horeb, yn mhlwyf Cambria, ac yno y mae ei ferch Kate a'i brawd Llewelyn yn byw yn awr. Yr oedd Mr. Hughes yn ddyn o alluoedd uwchraddol, ac yn un a gymerai ddyddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth. Yr oedd yn fyw iawn i gwestiynau gwleidyddol yn ei blwyf, ei sir a'i Dalaeth ei hun, a thrwy y wlad yn gyffredinol. Llanwodd amryw o swyddau. Bu am bum mlynedd ar hugain yn ynad heddwch (justice of the peace). Etholwyd ef ddwy waith i Ddeddfwrfa y Dalaeth, sef yn 1874 ac 1875. O ran ei olygiadau ar drefn a llywodraeth eglwysig yr oedd yn Gynulleidfaolwr selog.
Gadawodd naw o blant - tair o ferched a chwech o feibion, i alaru ar ei ol, Mae dau o'r meibion, sef William F. a Byron Hughes, yn gyfreithwyr llwyddianus yn Mankato, Minnesota.
Rhoddwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Cambria. Gweinyddwyd yn ei angladd wrth y ty gan y Parchn. John E. Jones, (A.,) W. Machno Jones, a William Powell; ac wrth y bedd gan y Parch. David Edwards, Lake Crystal.
Cyfaill.