MRS. MARGARET JENKINS. BANGOR, WISCONSIN.

Ionawr 31ain, 1897, Mrs. Margaret Jenkins, o'r darfodedigaeth. yn ei chartref yn Bangor, Wisconsin.

Ganwyd hi yn Penal, Meirionydd, Chwefror 17eg, 1833. Daeth i America gyda theulu Griffith Jenkins yn 1851; ac yn 1854 priododd Richard Jenkins yn Remsen, New York, lle buont byw nes symud i Bangor yn 1858.

Ganwyd iddynt naw o blant, tri o honynt yn marw yn eu babandod a'r gweddill yn byw yn Wisconsin.

Ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr yn Remsen pan oedd y diweddar William Jones yn weinidog yno. Bu yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn Bangor, Wisconsin, am lawer o flynyddoedd.

Claddiwyd hi yn mynwent Bangor ar Chwefror yr 2il, 1897, y Parchn. H M. Pugh, D. D., A. Le Grand a J. J. Vaughan yn gweinyddu.

Y Drych ~ Mawrth 4ydd 1897.