MRS. GWEN JONES. 380 JAY STREET, UTICA, NEW YORK.

Ionawr 26ain, 1897, Mrs. Gwen Jones, priod Thomas Jones, engineer, 380 Jay Street, Utica, New York, o'r darfodedigaeth, gan adael tri o blant yn ngofal ei phriod, sef Bessie, Jennie a James. Yr oeddynt wedi claddu y plentyn hynaf. Gadawodd hefyd fam,tri brawd a chwaer i alaru ar ei hol.

Merch ydoedd i'r diweddar Evan a Jane Jones, gynt o Pen y Ceryg, ger Harlech, Gogledd Cymru, lle ganwyd hi 38 ml. 5 mis yn ôl.

Ymfudodd ei theulu i'r wlad hon yn ngwanwyn 1888, ac ymsefydlasant yn Utica.

Ionawr, 1890, priododd hi Thomas Jones, brodor o Llandudno, Gogledd Cymru.

Cafodd ei dwyn i fyny yn ofn yr Arglwydd, mewn undeb a'r Wesleyaid, a bu yn ffyddlon hyd y gallodd fel aelod o eglwys y Coke Memorial. Cafodd gystudd trwm a maith, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach. Dechreuodd yr afiechyd trwy ymosodiad o'r grip tua dwy flynedd yn ôl. Wedi sylweddoli nad oedd i wella, trefnodd ei thŷ, a gwiriodd eiriau Esaiah, "Ni frysia yr hwn a gredo."

Cymerodd yr angladd le ddydd Gwener, Ionawr 29ain. Gweinyddwyd yn y tŷ yn Saesneg gan y Parch. H. E. Waugh, Presiding Elder, ac yn eglwys y Wesleyaid Cymreig gan yr ysgrifenydd.

Yn y gladdfa gwasanaethwyd gan y Parch. D. T. Davies a'r ysgrifenydd.
JOHN WILLIAMS.

Y Drych ~ Chwefror 4ydd 1897.