MR. HUGH JONES. EAST BOSTON, MASSACHUSETTS.

Hydref 11eg, 1897, yn East Boston, Massachusetts, Hugh Jones, 61 Cottage Street, yn 33 mlwydd oed, o'r typhoid pneumonia.

Ganwyd a magwyd yr ymadawedig yn Llanfairfechan, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni ydynt William a Margaret Jones. Ymfudasant i'r wlad hon yn Awst, 1883, gan ymsefydlu yn East Boston.

Yn 1887 symudodd yr ymadawedig i Denver, Colorado, pryd yr ymbriododd â Miss Elizabeth Evans, merch i Thomas ac Elizabeth Evans, Pontrhydfendigaid, De Cymru. Yn 1891 daeth yn ôl i East Boston, gan wneyd ei gartref yn Rhif 61 Cottage St., a myned i wasanaeth y West End Roofing Company, a daliodd y swydd o foreman gyda hwynt o hyny hyd ei farwolaeth.

Teimlir colled ar ei ôl yn y cylch Cymraeg, gan ei fod bob amser yn ffyddlawn yn nglyn a phob symudiad Cymraeg. Hefyd yr oedd yn aelod ffyddlawn a rheolaidd o Gymdeithas y Cymrodorion, a theimlir colled ddirfawr ar ei ôl. Efe hefyd fu yn gychwynydd i'r Ysgol Sabbothol Cymraeg yn East Boston, ac mae'n ddiameu y teimla y Cymry yno golled nid bychan ar ei ôl.

Claddwyd ei weddillion dydd Mercher, Hydref 13eg, yn Woodlawn Cemetery. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn St. Mary's Episcopal Church, lle hefyd y cynelir yr Ysgol Sul Gymraeg, pryd y daeth cynulliad parchus o Gymry ac eraill i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd yn Saesneg gan y Parch. W. T. Crocker, gweinidog y lle, ac yn Gymraeg gan y Parch. J. Chris. Williams, yn effeithiol ac i'r pwrpas, ar y geiriau "A gosod o honot ei therfynau, fel nas elot drostynt."

Gadawodd i alaru ar ei ôl briod a dau o blant bychain, hefyd tad a mam, tri o frodyr a thair o chwiorydd, y rhai a drigiasant yn East Boston. Cydymdeilad llwyraf yr ardal a'r teulu yn eu profedigaeth.

Y Drych ~ Hydref 28ain 1897.