MISS KATE JONES. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.

Medi 5ed, 1897, yn Plymouth, Pennsylvania, Miss Kate Jones, merch Mr. a Mrs. John E. Jones, High Street.

Ganwyd hi yn Abercaseg, Bethesda, Arfon. Pan oedd hi tua 8 oed ymfudodd ei rhieni i Granville, New York, ac yn mhen pedair blynedd daethant i Plymouth. Pan yn eneth 12 oed dangosodd Kate fod ynddi dalent neillduol at adrodd; a chof genyf pan oedd yn adrodd unwaith mewn cwrdd ysgol i'r hen dad John D. Walters neidio ar ei draed a gwaeddi "Dyna Gymraeg pur," a chredais na fuasai ef byth yn gorphen canmol. Dro arall adroddodd "Yr Iesu wrtho ei hun" (Telynog) mor effeithiol nes peri i lawer golli dagrau, pryd y dywedodd y llywydd Thos. M. Rees, "Dyna adroddiad gwerth cerdded deng milldir i'w wrandaw."

Yr oedd adrodd Cymraeg mor naturiol iddi ag ydyw i ddwfr redeg. Dydd Calan diweddaf gorchfygodd wyth o adroddwyr goreu y dyffryn dan feirniadaeth Celyddon yn Eisteddfod Nanticoke. Bob amser adroddai ddarnau o chwaeth uchel, ac ni chlywid hi byth yn beio y beirniad nac yn ymffrostio. Yr oedd hefyd yn gantores dda, a chipiodd wobrau oddiar rai o'r cantorion goreu yma. Canai "Yn mreichiau fy Ngwaredwr rwy'n ddiogel" nes gwefreiddio cynulleidfa. Yr oedd yn ffyddlon yn nghyfarfodydd yr wythnos a'r Sabboth, nes iddi golli ei hiechyd.

Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig pan yn 15 oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.

Gafaelodd y darfodedigaeth ynddi flwyddyn yn ôl, a gorchfygodd hi, er y coleddid gobaith unwaith am ei hadferiad. Y noson yr oedd hi yn myned trwy afon angeu, ydoedd y cyfarfod gweddi a chanu mwyaf effeithiol a glywodd neb erioed; ac mae pawb yn credu i Kate Jones fyned i well lle, yr hyn sydd yn gysur mawr i'w rhieni.

Y dydd Mawrth canlynol claddwyd hi gan dyrfa luosog; ac yr oedd y blodau a'r dagrau yn dangos mor barchus yr oedd hi yn mynwes perthynasau a chyfeillion. Gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Jones ei gweinidog, a'r Parch. T. C. Edwards, ei hathraw, oddiar y geiriau "Benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod." Canodd parti o ferched hefyd yn effeithiol dros ben dan arweiniad Miss Edwards. Yr archgludwyr oeddynt D. Phillips, Ed. Rowland, D. Jones, F. Walters, W. J. Jones ac Evan Owens.
Joseph Lewis.

Y Drych ~ Medi 30ain 1897.