MRS. LAURA JONES. TRENTON, REMSEN, NEW YORK.

Mawrth 23ain, 1897, yn ei chartref yn mhlwyf Trenton, ger Remsen, New. York., Mrs. Laura Jones, yn 73 mlwydd, 14 diwrnod oed. Yr oedd wedi bod yn wael er's wyth mis.

Ymfudodd i'r wlad hon o Sir Gaernarfon gyda'i theulu pan oedd tua wyth mlwydd oed, gan ymsefydlu yn mhlwyf Trenton. Ei rhieni oeddynt y Parch. David Hughes a'i briod Ellen, South Trenton; a chofir ei thad gan yr hen bobl fel pregethwr cymeradwy.

Yn 1840 priododd yr ymadawedig William G. Jones, yr hwn fu farw un-mlynedd-ar-ddeg yn ôl; a bu eu bywyd priodasol yn un hynod o ddedwydd. Yr oedd Mrs. Jones yn ddynes o gymeriad gloew a thueddiadau hynaws; yn wraig ddarbodus, mam gariadus a chymydoges gymwynasgar. Yr oedd yn grefyddol er yn ieuanc ac yn aelod ffyddlon o'i eglwys Gynulleidfaol Remsen.

Ganwyd iddi chwech o blant, o'r rhai y mae yn fyw ddau fab a dwy ferch - Griffith W. Jones, Remsen; D. W. Jones, a Misses Ellen a Mary A. Jones, Trenton. Hefyd, gadawodd un chwaer, Mrs. William C. Williams, Marcy.

Yr oedd y diweddar Dr. David Hughes o Utica yn frawd iddi; a bu dwy chwaer farw yn South Trenton, Mrs. Francis Francis a Mrs. Hugh Richards o Wisconsin; a chladdwyd chwaer a dau frawd, Hugh a John, yn Nghymru.

Cafodd angladd anrhydeddus, y Parch. Edward Davies yn gweinyddu yn y tŷ, a chor eglwys Peniel yn canu. Dodwyd y corff i orwedd yn mynwent Prospect.

Can it be true?
While yet our hearts refuse to know
That she is gone, forever gone
From sight of eyes and touch of loving hands,
Out from this needy world into that better land;
Must we believe it true?

Y Drych ~ Mai 6ed 1897.