MRS. MARGARET JONES. DANIELSVILLE, PENNSYLVANIA.
Hydref 5ed, 1897, Mrs. Margaret Jones, Danielsville, Pennsylvania, yn 59 mlwydd oed.Merch ydoedd i Richard a Mary Roberts, Hafod-gan, Llaniddeiniolen, Sir Gaernarfon.
Ymbriododd a John G. Jones, Tanybwlch, Mehefln 13eg, 1859, ac ymfudasant i'r wlad hon yn 1864, gan ymsefydlu yn Slatington, Pennsylvania, ac yn 1866 symudasant i Danielsville, Pennsylvania, le y bu hyd ei marwolaeth.
Bu iddynt 10 o blant, 5 o'r rhai sydd eto yn fyw, yn nghyd a'u tad, i alaru ar ei hol. Y mae iddi un brawd - Robert R. Roberts, Slatington, yn fyw, y diweddaf o'r teulu.
Dyoddefodd gystudd am dros 20 mlynedd, yr hyn a'i cadwodd gan mwyaf yn y tŷ. Ni chafodd y fraint o fwynhau ond ychydig o foddion gras yn ystod yr holl flynyddau hyn; ond yr oedd wedi ei magu gyda chrefydd, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd. Yr oedd yn hynod am ddarllen a chofio yr ysgrythyrau, a byddai yn hynod hoff o benillion, ac yn eu hadrodd hyd y diwedd.
Claddwyd hi yn mynwent Cherryville, Hydref 9fed, 1897, pryd y gwasanaethwyd i dyrfa luosog gan y Parchn. James Maboy a J. W. Morris, Slatington.
WILLIAM DAVIES.