MRS. MARTHA JONES. NANT, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 8fed, 1897, yn ei chartref yn ardal y Nant, plwyf Steuben, Swydd Oneida, New York, ar ôl cystudd byr o'r parlys, Mrs. Martha Jones, yn 73 mlwydd a 10 mis oed.Yr oedd Mrs. Jones yn weddw i'r diweddar Wiliam W. Jones, Brynpoeth, yr hwn fu farw oddeutu deg mlynedd yn ôl.
Genedigol ydoedd o Felin Trugan gerllaw Pwllheli, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni pan yn bedair blwydd oed, gan ymsefydlu yn nghylchoedd Remsen.
Yr oedd ei rhieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau yn y Capel Ucha, dan weinidogaeth Dr. Everett. Ymunodd hithau a'r eglwys hono pan yn 13 mlwydd oed.
Wedi ymbriodi gyda Mr. Jones ymunodd ag eglwys y Nant, lle y bu weddill ei hoes, yn barchus a chymeradwy iawn yn yr ardal a'r eglwys fel gwraig rinweddol a chrefyddol. Meddai farn a synwyr cryf, a phrofiad addfed; yr oedd hefyd yn naturiol a chymwynasgar ac o dueddfryd ryddfrydig a haelionus, gan gyfranu yn dda yn ôl ei gallu at wahanol achosion. Bu yn ffyddlon gyda'r achos mewn gwahanol ffyrdd, a themlir colled fawr ar ei hol.
Cafodd bob gofal ac ymgeledd ellid weinyddu iddi yn ei chystudd gan ei hanwyl ferch a'i phriod - Mr. a Mrs. Edward L. Jones, y rhai, gyda'u plant, sydd mewn galar dwys a hiraeth ar ei hol. Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Llun canlynol. Cymerodd y gwasanaeth crefyddol le yn y tŷ ac yn nghapel y Nant, lle yr oedd cynulleidfa fawr yn bresenol.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Dr. E. G. Williams ac E. C. Evans.
Claddwyd y gweddillion yn nghladdfa y Nant.