MR. OWEN W. JONES. QUINCY, MASSACHUSETTS.
Mawrth 21ain, 1897, yn Quincy, Massachusetts, Owen W. Jones, yn 63 mlwydd oed, gan adael gweddw ac unig ferch i Alaru ar ei ôl.Ei rieni oeddynt William ac Ann Jones, Ty Ceiriog, Llanegryn, Towyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, lle ganwyd ef.
Yn 1856 ymfudodd i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Quincy, ac ymbriododd â Miss Fletcher o'r lle hwn yn 1858.
Claddwyd ef yn anrhydeddus ddydd Mercher, y 24ain, yn Mount Wollaston Cemetery, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. N. H. Hardy, (A.); hefyd canodd rhan o aelodau y cor meibion Cymreig y lle amryw ganeuon pwrpasol. Yr oedd yr ymadawedig yn ewythr i'r cerddor ieuanc talentog, E. Maengwyn Davies, R. A. M., Llundain, gynt o Abergynolwyn, Gogledd Cymru, yr hwn ag sydd yn dod yn boblogaidd fel un o gerddorion mwyaf addawol y Cymry.
BOSTONIAN.