MR. ROBERT T. JONES. NANT, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 26ain, 1897, yn ardal y Nant, Steuben, Robert T. Jones, o glefyd y galon, yn 76 mlwydd oed.Genedigol oedd o Rhyd Lios, Lleyn, Gogledd Cymru, a mab i Thomas W. ac Ellen Jones.
Daeth y teulu i'r wlad hon oddeutu 65 mlynedd yn ôl, pan oedd Mr. Jones yn 9 mlwydd oed, ac ymsefydlasant yn ardal French Road, lle y buont fel teulu yn ffyddlon a gweithgar gyda'r achos crefyddol am lawer o flynyddau.
Yn 1850 ymbriododd Robert Jones gyda Miss Winifred Pritchard, yr hon a brofodd yn wraig rinweddol a chrefyddol, ond a fu farw naw mlynedd yn ôl.
Daethant i fyw i ardal y Nant yn 1858, lle y treuliodd Mr. Jones weddill ei oes, lle hefyd yr oedd yn hynod barchus gan bawb a'i hadwaenai drwy y cylchoedd. Amaethwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a thrwy lafur a diwydrwydd gyda, gofal am ei enillion daeth i amgylchiadau cysurus a llwyddianus yn y byd.
Fel dinesydd yr oedd yn ddyn da a rhinweddol, yn cymeryd dyddordeb yn symudiadau cyhoeddus ei ardal a'r wladwriaeth; fel cymydog yr oedd yn hynaws, cymwynasgar, cywir ac uniawn yn ei drafodaeth a'i gyd-ddynion; yn ei gartref byddai bob amser yn dyner, serchog a gofalus am ei deulu. Bu yn aelod crefyddol am dros 40 mlynedd ac er's llawer o flynyddau yr oedd yn flaenor parchus yn eglwys y T. C. yn y Nant.
Profodd yn ffyddlon neillduol, gyda phob rhan o'r gwaith ffyddlon a chyson yn moddion gras, parod i gynorthwyo bob amser drwy gyfranu a thrwy weithgarwch personol er hyrwyddo llwyddiant y gwaith.
Yr oedd yn amlwg fod gwreiddyn y mater ganddo ac fod anian dduwiol yn ei lywodraethu. Cyfunai amryw ragoriaethau yn ei gymeriad crefyddol. Nodweddid ef gan brofiad addfed, hoffder o air Duw, ysbryd caruaidd a siriol ac ymarweddiad dichlynlaidid a difrycheulyd, a pherchid ef yn fawr ac yn gyffredinol fel dyn Duw a Christion gloew.
Fe deimlir colled a chwithdod mawr ar ei ôl gan eglwys a chynulleidfa y Nant a thrwy yr holl gymydogaeth, ac yn neillduol felly yn ei gartref, lle y cafodd bob gofal ac ymgeledd ellid weinyddu iddo.
Bu farw fel y crybwyllwyd o glefyd y galon yn lled annysgwyliadwy, ond gellir teimlo yn hyderus am dano ef fod ei fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw a'i fod yn wir etifedd teyrnas nefoedd.
Gadawodd mewn galar dwys ar ei ôl un mab ac un ferch, Sylvanus Jones, Utica, a Mrs. Washburn Parkhurst, Steuben, New York. Hefyd un wyr, Robert Jones, Utica, ac un brawd, John Jones, French Road, a lluaws o berthynasau eraill.
Dydd Mawrth, Mehefin 29, daeth tyrfa fawr yn nghyd i'w gladdedigaeth. Cymerodd y gwasanaeth crefyddol le yn y tŷ. Pregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. B. D. Davies, Oriskany, ac yn Saesneg gan y Parch. E. C. Evans, Remsen. Hebryngwyd y gweddillion i'w claddu yn mynwent French Road.