MRS. SARAH JONES. CHICAGO, COOK COUNTY, ILLINOIS.

Mai 16eg, 1897, Mrs. Sarah Jones, gweddw Harry P. Jones, sef brawd i'r cyfeillion R. D. Jones, 253 West Monroe Street, a Wm. Deudraeth Jones, W. Pullman, Chicago, Illinois - y tri yn feibion Caegwyn, Penrhyndeudraeth, Gogledd Cymru.

Ganwyd. hi yn Abersoch, Swydd Gaernarfon, Ionawr, 1842, felly yr oedd yn 55 mlwydd a 4 mis oed. Yr oedd ei thad, Hugh Roberts, yn flaenor parchus a defnyddiol gyda'r eglwys Annibynol yn Abersoch.

Priododd hi Harry P. Jones yn 1868, a buont fyw yn gysurus a dedwydd, yn ei lle genedigol hi, bron yr holl amser, oddiethr yr ychydig y buont yn gorfod symud o herwydd amgylchiadau ei swydd ef fel heddgeidwad, hyd yr adeg yr ymfudasant i'r America.

Daeth ef drosodd ryw 11 mis o'i blaen hi, a daeth hithau a'i hunig fab, a'r unig blentyn, sef y brawd ieuanc Hugh R. Jones, drosodd ar ei ôl yn mis Medi, 1885.

Bu farw ei hanwyl briod yn Chicago Chwefror, 1889, yr hyn fu yn ergyd drom, ac a effeithiodd yn fawr arni hi; gellir dweyd na bu ddiwrnod yn iach ar ôl hyny.

Y mae dau frawd iddi hi, ac un chwaer yn byw yn yr Hen Wlad. Yr oedd priod ei chwaer (pan yn fyw) yn weinidog parchus perthynol i'r Annibynwyr.

Daearwyd ei gweddillion yn Graceland Cemetery, Mai 18fed. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn nghapel Hebron am 2 o'r gloch y prydnawn, pryd y gwasanaethwyd yn effeithiol gan y Parch. John C. Jones, a chanwyd amryw ddarnau pwrpasol gan y cor dan arweiniad Proff. John P. Jones. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod o eglwys Hebron, ac fel y dywedai ei gweinidog, wedi ei phrydferthu a dystawrwydd sanctaidd. Yr oedd iddi luaws mawr o edmygwyr, o herwydd y rhinweddau da a berthynent iddi, a bydd ei choffadwriaeth yn fendigedig gan yr oll o honynt.

Y mae yma gydymdeimlad a'r cyfaill Hugh R. Jones, ei mab amddifad, ond yr ydym yn credu ei fod yn gwybod trwy brofiad am fan i droi yn nydd ei drallod. Nawdd y nef fyddo aros y teulu yn eu profedigaeth chwerw.
D. R. W.

Y Drych ~ Mehefin 3ydd 1897.