MR. WILLIAM W. JONES, TACOMA, WASHINGTON.

Mawrth 13eg, 1897, o'r typhoid pneumonia, yn Tacoma, Washington, William W. Jones.

Ganwyd ef yn Aber ger Bangor, Gogledd Cymru, yn Awst 1842.

Priododd Jane Morris o'r un lle. Yn 1838 daethant i'r America, gan ymsefydlu yn ardal Flint Iowa, lle buont am bedair blynedd. Yna symudasant i ardal Red Oak yn yr un dalaeth. Yn 1891 daethant i Tacoma, Washongton.

Ni bu Mr. Jones yn glaf ond ychydig ddyddiau, ac yr oedd ei farwolaeth sydyn yn ergyd drom, nid yn unig i'w deulu ond i gylch eang o'i gyfeillion a'i adnabyddion.

Yr oedd yn aelod dichlynaidd a defnyddiol o'r eglwys Fesodistaidd Esgobol. Cymerodd ei angladd le yn yr addoldy a fynychai, yn yr hwn y gweinyddodd y Parch. D. G. Lescard, gweinidog yr eglwys, a'r Parch. Rowland Hughes o Buckley.

Gadawodd weddw a chwech o blant i alaru ar ei ol; ond y mae'r plant, gan mwyaf, wedi tyfu i fyny. Yr oedd yr ymadawedig yn wr hynaws a charedig ac un a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai.

Y Drych ~ Ebrill 8fed 1897.