MRS. ELEANOR LANSING. BROOKFIELD, MISSOURI.
Ebrill 20fed, 1897, yn 55 mlwydd oed, yn Brookfield, Missouri, Eleanor, priod A. J. Lansing.Merch ydoedd i Edward ac Eleanor Williams, Rhoswen, plwyf Maentwrog, lle y ganwyd hi.
Daeth i'r wlad hon Ebrill, 1856, gyda'i brodyr John a Meredith, a'i chwiorydd Jane ac Elizabeth, a'i thad. Yr oedd ei brawd William yn y wlad, cyn hyny. Sefydlodd hi gyda'r teulu y agos i Utica, New York. Pan yn eneth 14 oed aeth Eleanor at deulu o'r enw Hale yn Whitesboro, a bu gyda hwy naw mlynedd.
Yn 1865 priododd A. J. Lansing, yr hwn a fu yn gwasanaethu fel milwr yn y rhyfel, a buont yn byw am ychydig amser yn ninas Utica. Tua'r amser hwnw symudodd Mr. Hale a'i briod i Missouri, ac anfonasant am Eleanor a'i phriod; a bu y ddau deulu yn cydfyw o hyny yn mlaen. Ymddygai Mr. a Mrs. Hale at Mrs. Lansing fel pe buasai yn ferch iddynt, a theimlai hithau yn agos iawn atynt hwythau.
Yr oedd yn aelod ffyddlon yn yr eglwys gyda'r Presbyteriaid.
Bu yn nychu am amser lled faith, a dyoddefodd ei chystudd yn dawel. Tua blwyddyn yn ôl aeth ei brawd, William L. Williams i ymweled â hi. Cafodd y ddau foddhad mawr yn nghymdeithas eu gilydd. Dywedodd wrtho fod ganddi hi ei jewels ar y ddaear, ac y carasai aros gyda hwy am dipyn, ond yr oedd yn dymuno cael nerth i ymostwng i ewyllys ei Thad Nefol.
Y mae iddi briod, dau o feibion, dwy o ferched, dau o frodyr a dwy o chwiorydd yn sylweddoli y lle gwag sydd yn y byd ar ôl ei hymadawiad hi o hono. Cafodd angladd parchus, yn yr hwn y dangoswyd cydymdeimlad mawr a'r teulu galarus.
Gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch. E. C. Jacka, yn cael ei gynorthwyo gan weinidog yr eglwys Gynulleidfaol yn y ddinas.
R. T. ROBERTS.