ELINOR ROBERTS LEWIS. FRANKFORT HILL, HERKIMER, NEW YORK.
Yn ei chartref yn Utica, New York, Gorphenaf 15fed, 1897, bu farw Ellen, anwyl briod David Lewis, yn 83 mlwydd, 4 mis a 5 diwrnod oed. Bu y chwaer anwyl hon yn un o'r rhai ffyddlonaf i'r "Cyfaill" am tua 54 mlynedd. Y flwyddyn gyntaf y daeth hi a'i phriod i'r wlad hon, 1843, croesawyd y "Cyfaill" i'w ty, a bu yn ymwelydd cyson hyd ei marwolaeth. Darllenai ef yn fanwl, a gofalai am dalu amdano, ac er fod ei golwg wedi pallu y deng mlynedd diweddaf o'i hoes, er hyny, byddai raid i eraill ei ddarllen er mwyn iddi wybod ei gynwys, a diau y rhydd yntau gongl fechan i gofio am dani.Ganwyd hi yn Buarth Brwynog, Trawsfynydd, Gogledd Cymru, Mawrth 10fed, 1814. Yr ieuengaf ydoedd o chwech o blant i Evan a Gwen Roberts. Ychydig o fanteision addysg geid y pryd hyny yn ei chymydogaeth hi, ond yr oedd ysgol Sabbothol o fewn ei chyraedd, a gwnaeth ddefnydd da o honi, a chafodd y fath flas ar ei haddysg fel y dylynodd hi tra daliodd ei nerth.
Ychydig yn selog gyda'r hen Eglwys Sefydledig ydoedd ei rhieni, fel nad oedd yc cael fawr o gymelliad i fyned i'r capel na'r ysgol, ond yno yr elai Ellen i'r naill a'r llall, a chyn hir derbyniwyd hi yn ei hieuenctyd yn aelod o eglwys y T. C. yn Trawsfynydd. Yr oedd y Parch. Lewis Morris yn bresenol, a rhoddodd lawer o hyfforddiant iddi a chyngorion difrifol iddi i ofalu am lynu wrth y Beibl ei llythyr eglwysig a chrefydd lle bynag yn elai. Cafodd ei gyngorion argraff ddwys ar ei meddwl, a byddaì yn coffhau yn barchus am dano pryd bynag y symudai, gan ymdrechu cario allan ei hyfforddiant iddi.
Y symudiad cyntaf ydoedd i'r Bala. Yno daeth yn gydnabyddus a David Lewis, a Tachwedd 11eg, 1842, darfu iddynt ymbriodi. Y gwanwyn dylynol daethant drosodd i'r wlad* hon gan sefydlu yn Floyd, Sir Oneìda, yn agos i'r capel. Yno cafodd lawer o gymdeithas hen weinidogion yr oes o'r blaen, y Parchn. William Pierce, Edward Rees, Thomas Williams, John Hughes, Marcy, Thomas R. Jones a Dr. Rowlands. Hyfrydwch iddi ydoedd eu cymdeithas, a braint ganddi ydoedd gweini arnynt yn ol y cyfleusdra oedd ganddi. Yma hefyd y dechreuodd fagu ei phlant, a byddai yn ymdrechgar iawn i'w parotoi i'r ysgol Sul a'r society, ac wrth ddysgu adnodau a Salmau iddynt. Dysgodd lawer ei hunan yn ychwanegol at yr hyn oedd wedi drysori pan yn ieuanc, y rhai fuont o ddyddanwch mawr iddi wedi iddi fethu darllen, oblegid i'w golwg ballu tua deng mlynedd cyn iddi farw.
Yn 1857 symudasant i ardal Bridgewater, a dangosai yr un ffyddlondeb gyda'i theulu, er fod y pellder i'r capel yn llawer mwy. Yn mhen 7 mlynedd symudasant i Frankfort Hill, lle y cawsant well manteision ac y gwnaethant ddefnydd da o honynt, ac y buont yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos. Anhawdd cael yr un par a fu yn fwy ffyddlon gyda'r ysgol Sabbothol tra y daliodd eu nerth, ac y mae yn debyg nad oes neb yn y cylch yma wedi bod mor ffyddlon i dylyn y Cyfarfodydd Ysgolion a'i phriod am faith flynyddau tra yn alluog i wneyd. Yr oedd y ddau yn oleuedig ac egwyddorol yn ngwirioneddau y Beibl ac yn ddefnyddiol yn nghaniadaeth y cysegr. Wedi hyn symudasant i Kansas am dymor, ond dychwelasant yn ol drachefn i Frankfort Hill. Yn ddiweddaf oll tua deng mlynedd yn ol symudasant i Utica, lle y gorphenodd hi ei gyrfa ddaearol. Eiddil ydoedd o gyfansoddiad, a chwynai gryn lawer gan ei hiech- yd y rhan fwyaf o'i hoes, ond cafodd fyw er hyny i weled oedran teg, ac araf addfedai o ran ei hysbryd i'r orphwysfa nefol. Yr oedd bron yn gwbl ddall er's blynyddau lawer, ac yn niwedd ei hoes blinid hi yn fawr gan y cancer ar un o'i haelodau, ond dyoddefodd y cwbl gydag amynedd Cristionogol.
Mae ei choffadwriaeth yn fendigedig gan y rhai a'i hadwaenai, a chwith iawn i'w phriod yn ei henaint fydd colli ei chymdeithas, ond teimla ef a'r plant na raid iddynt dristau megys rhai heb obaith, oblegid y mae bywyd a phrofiad y chwaer anwyl yn symud pob ameuaeth am ei duwioldeb ac yn sail gobaith cryf nad oedd angau ond negesydd cymwynasgar iddi i'w symud o fyd y cystuddiau a'r trallodion i gymeryd meddiant o ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
Heblaw ei phriod gadawodd ar ei hol chwech o blant, Mrs. L. A. Brigham o Frankfort Hill, Edward D. Lewis, Arvonia Kansas, Mrs. Hugh D. Evans, Mrs. Charles Staley a Mrs. David A. Johnson o Utica, a David E. Lewis o Rochester, a llawer o wyrion.
Claddwyd hi ym mynwent Frankfort Hill, wrth ochr gweddillion ei merch, gladdwyd 23 mlynedd yn ol. Yn absenoldeb y Parch. J. Hughes Parry gweinyddwyd gan y Parch. J. H. Jones, Rome.
J. H. Jones.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1897.
ELINOR ROBERTS LEWIS. FRANKFORT HILL, HERKIMER, NEW YORK.
Dydd Iau, y 15fed, yn ei chartref, 310 Kossuth Avenue, Utica, New York, bu farw Mrs. Ellen Lewis, priod David Lewis, yn 83 mlwydd, 4 mis a 5 diwrnod oed.Ganwyd hi yn 1814, yn Buarth Rrwynog, Trawsfynydd, Gogledd Cymru.
Priododd D. lewis yn Llanycil, ger Y Bala, yn 1842, ac ymfudodd y ddau i America y flwyddyn ganlynol, gan ymsefydlu yn Floyd. Buont hefyd yn byw yn Bridgewater, Frankfort Hill ac Arvonia, Kansas, cyn ymgartrefu yn Utica, ddeng mlynedd yn ol.
Yr oedd Mrs. Lewis yn grefyddol o'i mebyd; ac yn aelod gyda'r T. C., (Moriah.)
Gadawodd ar ei hol chwech o blant - Mrs. L. A. Brigham o Frankfort Hill; Edward D. lewis o Arvonia, Kansas; Mrs. Hugh D. Evans, Mrs. Charles Staley, Mrs. David A. Johnson o Utica; a David F. Lewis o Rochester. Hefyd lluaws o wyrion.
Claddwyd hi ddydd sadwrn yn Frankfort Hill, lle claddwyd merch iddi 23 mlynedd yn ol - y Parch. J. H. Jones, Rome, yn gweinyddu.