MR. JOHN LEWIS. GLEN ROCK, JEFFERSON STATION, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
Yn Glen Rock, ger Jefferson Station, York County, Pennsylvania, John Lewis, ar ôl bod yn wael am 5 mis dan y darfodedigaeth; a chladdwyd ef yn Jefferson.Ymfudodd i'r wlad hon 43 o flynyddoedd yn ôl o Lanberis, Gogledd Cymru. Bu yn gweithio y blynyddoedd cyntaf yn Slate Hill a Peter's Creek gyda Rowland Parry Richard Jones o Coed Mawr, a Foulk D. Jones. Aeth i'r Hen Wlad yn adeg y rhyfel cartrefol, a daeth yn ôl 30 mlynedd yn ôl i'r Nadolig diweddaf, gan ymsefydlu yn agos i Jefferson, a phriododd gydag Ellmynes.
Bu iddynt chwech neu saith o blant ac y mae hi a hwythau wedi eu gadael i alaru ar ei ôl.
Yr oedd yn aelod gyda'r Lutheriaid, am nad oedd achos Cymreig yn yr ardaJoedd. Bydded i Farnwr y gweddwon a Thad yr amddifaid ofalu am danynt, dyna yw dymuniad ei unig frawd.
Robert R. Lewis, Peely, P. 0., Pa,.