MRS. LAURA LEWIS. 38 CASS STREET, MILWAUKEE.
Chwefror 20fed, 1897, yn nhy ei merch, Mrs. G. S. Jones, 38 Cass street, Milwaukee, Mrs. Laura Lewis, o fewn ychydig i fod yn 86 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Nyffryn Ardudwy, Swydd Feirionydd, yn 1811. Pan yn 27 oed priododd John Lewis, a daethant i'r wlad hon. Buont yn byw yn ardal Remsen New York, am bum mlynedd; yna daethant allan i Wisconsin, gan osod eu pabell i lawr yn Emmett, ger Watertown, am 20 mlynedd. Oddiyno symudasent i Randolph, lle, cyn hir, bu farw y pen-teulu, a chladdwyd ef yn mynwent Cambria.
Treuliodd Mrs. Lewis, y 17 mlynedd diweddaf o'i hoes gyda'i merch Annie yn Milwaukee, ac ni fu neb erioed yn fwy ffodus i gael gofal a thynerwch yn niwedd ei hoes, oblegid yr oedd Mr. a Mrs. Jones yn hynod yn eu gofal am dani, am yr hyn derbyniant fendith.
Claddwyd hi yn mynwent Cambria prydnawn dydd Mawrth, Chwefror 23ain. Cychwynwyd o Milwaukee ychydig cyn 8 o'r gloch y bore. Yr oeddynt yn Randolph erbyn 11 o'r gloch, a chynaliwyd gwasanaeth yn nghapel yr Annibynwyr gan y Parchn. J, E. Jones. (T. C.,) Milwaukee, a Timothy Jones, Spring Water, hen weinidog i Mrs. Lewis am flynyddoedd yn Emmett. Canodd cor y capel hefyd o dan arweiniad Bill Thomas, hymnau a thonau pwrpasol, a gweinyddwyd ar lan y bedd gan y Parch. Timothy Jones.
E. MORGAN.
Y Drych ~ Mawrth 18fed 1897.
MRS. LAURA LEWIS. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Chwefror 20fed, 1897, yn nhy ei merch a'i mab yn nghyfraith, yn Milwaukee, Wisconsin, Mrs. Laura Lewis, o fewn dau fis i fod yn 86 mlwydd oed.Ganwyd hi ger Talsarnau, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Pan yn 30 oed, priododd John Lewis, ac ynmhen tuag wythnos wedi hyny daethant drosodd i America, gan ymsefydlu ger Remsen, New York. Yn mhen pum mlynedd daethant i Emmett, Dodge County, Wisconsin, a buont yn byw ar eu fferm yn Emmett o 1846 hyd 1876, ac yn llwyddianus iawn. Yn ngwanwyn 1876 symudasant i Randolph, Wisconsin, lle, yn mhen llai na blwyddyn y bu farw ei hanwyl briod, John Lewis, yn dro annysgwyliadwy. Bu Mrs. Lewis yn Randolph hyd Chwefror, 1881, pryd y symudodd at ei merch, Mrs. G. T. Jones. Cass Street, Milwaukee, lle y treuliodd weddill ei hoes mewn llawn hapusrwydd.
Bu iddi saith o blant, dau, sef Laura a Griffith, a'i rhagflaenodd, ac mae pump eto ar ôl yn eu galar, sef Mrs. Catherine Lloyd a John Lewis, Randolph, Wisconsin; Robert Lewis, Watertown, Wisconsin; Lewis Lewis, yn Mitchell, South Dakota, a Mrs. Annie Jones, Milwaukee, Wisconsin.
Wedi cadw gwasanaeth yn y tŷ yn Milwaukee nos Lun, aed a rhan farwol ein hanwyl chwaer gyda'r tren i Randolph bore Mawrth; a chynaliwyd gwasanaeth angladdol yn nghapel y Cynulleidfaolwyr iddi gan y Parchn. Edward Morgan, Cambria; John E. Jones, Milwaukee, a Timothy Jones, Springwater. Yn ei marwolaeth collasom chwaer anwyl, ac un a lanwodd y cymeriadau o fam a phriod a chwaer ddifrycheulyd yn yr eglwys. Bu hi a'i phriod hoff yn golofnau cedyrn yn Seion yma, fel y gallwn gredu eu bod yn berlau dysglaer yn nghoron Iesu draw. Cafodd Mrs. Lewis oes hir, a llanwodd hi a ffyddlondeb yn mhob cylch rhinweddol yn ei chyraedd, fel y gellir dweyd mai "perarogl Crist ydoedd."
Dymunwn i'w phlant anwyl efelychu ei bywyd pur.
TIMOTHY JONES.