MR. GRIFFITH H. MORRIS, SOUTH POULTNEY, VERMONT.
Mawrth 23ain, 1897, yr hunodd y brawd anwyl a'r diacon ffyddlawn Mr. Griffith H. Morris, South Poultney, yn angeu. Tua deng mis yn flaenorol gwisgwyd y gymydogaeth â galar oblegid marwolaeth ei briod hawddgar, a chyn i ddagrau hiraeth am dani gael eu sychu ymaith, daeth "tristwch ar dristwch," a dyfnhawyd y clwyf trwy farwolaeth ein hanwyl frawd.Mab ydoedd Mr. Morris i Howell ac Ellen Morris, Tros y Ffordd, Llanrug, Caernarfon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1839, felly yr oedd yn 58 mlwydd oed. Dyoddefodd gystudd caled am amser maith yn hynod dawel a di-rwgnach. Ar adegau yr oedd yn hawdd i'r ystyriol weled ei fod yn derbyn nerth oddi uchod, a'i fod yn meddu gobaith cryf fod ei gystudd blin yn "gweithredu tragywyddol bwys gogoniant" iddo. Bu yr ysgrifenydd yn ei ystafell lawer tro yn ystod ei gystudd. Dywedai wrthyf yn aml, heb floesgni, ac mewn llawn hyder ffydd, "Nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyda mi." "Yr wyf yn rhodio," meddai, "ar hyd glyn cysgod angau, ond mae ei wialen a'i ffon yn fy nghysuro." Ei nodwedd amlycaf yn ei deulu oedd tynerwch, pwylledd a charedigrwydd. Nid brenin haiarnaidd a grwgnachlyd ydoedd fel priod, ac nid tad creulon a diserch, ond hollol i'r gwrthwyneb. Yr oedd yn gallu teimlo yn wirioneddol dros bobl eraill. Gallai wylo gyda'r rhai fyddai yn wylo, a llawenhau gyda'r rhai llawen. Yr oedd yn feddianol ar allu i ddwyn ei flinderau ei hun gyda graddau helaeth o dawelwch, heb beri poen i eraill trwy eu datguddio iddynt. Yr oedd ei ymddygiad yn ei deulu yn llawn tynerweh a thiriondeb bob amser, ac yn dangos mawr serch tuag atynt yn wastadol. Ffyddlondeb difwlch ydoedd ei nodwedd amlycaf fel crefyddwr ffyddlawn, mewn mynychu moddion gras.
Byddai efe yn ei eisteddle yn brydlon pwy bynag fyddai yn absenol. Yr oedd yn ffyddlon i gymeryd pob rhan yn ei allu yn y cyfarfodydd, ac yn ffyddlawn fel swyddog, blaenor a thrysorydd yr eglwys. Gellir dweyd fod yr achos da yn agos at ei galon, yn ddwfn yn ei serchiadau. Yr oedd achos Iesu Grist yn ei wahanol agweddau yn wastad a phwysig ar ei feddwl. Pryderai lawer am ieuenctyd yr eglwys, a gwnaeth lawer o waith cyfrinachol yn eu plith mewn ffordd o gyngori a rhybuddio. Bu yn hynod ymdrechgar fel aelod a swyddog yn eglwys South Poultney am lawer o flynyddoedd.
Yr oedd y brawd Morris yn meddu cof eithriadol o gryf, yr hyn oedd yn fantais iddo ac yn ei gymwyso i fod yn drefnydd da. Edrychai ei gyd-swyddogion i fyny ato yn yr ystyr hwn. Mynych y clywir y brodyr yn cwyno o herwydd y golled hon. Y mae yn yr eglwys a'r byd syniadau uchel am y brawd Griffith Morris fel dyn a Christion. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Er na bydd iddo gael ei weled yn y cnawd mwy, fe'i coflr mewn anwyldeb gan yr eglwys am flynyddau. Bydded i'r plant a adawyd ar ei ôl ddylyn esiamplau rhagorol eu tad mewn bywyd o dduwioldeb.
Daeth tyrfa anarferol o luosog i hebrwng ei weddillion marwol i'w gwely pridd. Rhoddwyd ef i orwedd wrth ochr ei anwyl wraig yn nghladdfa Poultney, Vermont.
Gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel gan y Parch. E. R. Roberts, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. John Williams ac Ellis Walter Jones. Ar lan y bedd canwyd yr hen benill "Bydd myrdd o ryfeddodau," ac aeth yr Iforiaid trwy eu gwasanaeth yn effeithiol iawn. Heddwch i lwch y brawd anwyl hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Bydded y nefoedd yn dyner a thrugarog wrth y plant amddifaid a'r perthynasau oll a adawyd i wylo dagrau hiraeth ar ei ôl.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1897.
MR. GRIFFITH H. MORRIS, SOUTH POULTNEY, VERMONT.
Griffith Morris, an old and respected citizen og this place, died Saturday morning, after a long and protracted illness, at the advanced age of 74 years. He was a member of Llywarch Hen Lodge of True Ivorites.The funeral was held from the Welsh Calvanistic Methodist Church, of which he was for many years a deacon. Tuesday afternoon, The Rev. Ellis R. Roberts conducting the services. The internment was at the Poultney Cemetery.