MRS. JANE MORRIS, CAMBRIA, WISCONSIN.
Hen elyn dynoliaeth ydyw marw. Y mae yn ein blino yn fawr yn nghylchoedd Cambria, Wisconsin, y dyddiau hyn. Y mae genym yn awr i'w gofnodì farwolaeth ein hanwyl chwaer grefyddol, Mrs. David Morris, a chwaer i'r Parch. J. H. Jones, Rome, New York, teulu a adwaenwn yn dda er's blynyddoedd lawer.Merch Humphrey Jones a Margaret ei wraig, Delta gynt, blaenor gyda'r T. C. yn Rome, ac nid oedd yno ei ffyddlonach. Daethant i'r wlad hon o yn agos i Bwllheli, Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1842. Ganwyd gwrthrych y cofiant hwn Mawrth 6, 1831, yn y Penrhos, ac ymbriododd â Mr. D. Morris yn Mawrth 21ain, 1860, ac ymfudasant i Wisconsin i ymsefydlu, a phrynasant dir ryw dair milldir i'r deau o Cambria, lle buont yn amaethu yn llwyddianus hyd yr hydref diweddaf, pryd y rhoisant y ffarm i fyny i'r mab, a symud i'r pentref i feddwl cael tipyn o hamdden yn hwyr eu bywyd, ond byr y parhaodd.
Daeth angeu, brenin braw, ac a dorodd eu hamdden, fel ar filoedd o'u blaen, a symudwyd Jane Morris oddiwrth ei phriod ffyddlon a'r plant rhinweddol, i fyd arall i fyw, tu hwnt i gyraedd brenin braw, i'r beraidd baradwys i fyw, ie byw bellach yn holl ystyr y gair. Yr oedd: yn fam i 5 o blant, pa rai sydd yn fyw, ac wedi sefydlu yn y byd oll, ond un, yr hwn sydd yn byw yn y pentref, ac oll yn rhinweddol a pharchus. Nid oes parch i'w ddysgwyl ond lle byddo rhinwedd.
Bu farw Chwefror 16eg, 1897. Hebryngwyd y corff i dŷ ei hir gartref ar y 19eg, gan luaws mawr o gydnabod a pherthynasau. Y mae dwy chwaer iddi yn byw yn Randolph, Catherine a Margaret.
Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan y Parchn. R. M. Williams (P.), ac E. Morgans (A.). Y mae yn ddrwg genyf nad oeddwn gartref, ac yr oedd y brawd J. Daniels yn rhy wael ei iechyd.
Yr oedd Mrs. Morris yn wraig ddystaw, ddiabsen, ond meddylgar, lletygar, gofalus. Dygodd ei phlant i fyny yn ofn Duw, a llanwai y cylchoedd fel gwraig a mam a Christion. Yr oedd o deulu Methodistaidd, ac yn perthyn i egìwys y T. C. yn Cambria. Yr oedd y capel helaeth wedi ei lenwi gan y rhai oedd yn chwenychu dangos parch iddi ar ddydd ei chladdedigaeth. Nid oeddem yn dysgwyl am farwolaeth Mrs. Morris am flynyddoedd lawer eto, yr oedd wedi cael iechyd mor dda am faith flynyddoedd. Ond fel lleidr yn y nos y mae yr alwad yn dyfod yn fynych, ac yn tori pob cysylltiad daearol. Da genym feddwl am gysylltiad nas gall angeu mo'i dori. "Ni ddwg neb hwynt allan o law fy Nhad. Fy Nhad yr hwn a'u rhoddes i mi sydd fwy na phawb." Ond bod yma ni a allwn fforddio marw. Ar gais y teulu.
THOMAS R. JONES.