MR. TREVOR NICOLAS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 2ail, 1897, yn West Bangor, Pennsylvania, Trevor Nicolas, o'r darfodedigaieth, yn 53 mlwydd oed.

Mab ydoedd i'r diweddar John Nicolas ac Ann ei briod. Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni pan oedd yn ieuanc o ardal Bethesda, Arfon. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn yr ardal hon. Bu yn nhymor ei ieuenctyd yn bur wyllt ac afradlon, ond yr oedd wedi cyfnewid yn hollol er's blynyddau. Yr oedd wedi llwyr ymwrthod a'r diodydd meddwol er's tua deng mlynedd, ac wedi ymuno ag eglwys y Presbyteriaid cyn ei farwolaeth. Dywedai wrth y gweinidog fod gweddiau ei fam yn cael lle mawr ar ei feddwl yn ei gystudd.

Yr oedd ei fam yn hynod am ei duwioldeb, ac y mae genym le i gredu fod ei gweddiau wedi eu hateb ar ran ei mab, er ei bod hi yn y nefoedd er's 18 mlynedd.

Nid oedd wedi gweithio dim er's tua dwy flynedd. Yr oedd ei afiechyd yn bwyta ei nerth mor raddol a thwyllodrus i fel o'r braidd yr oedd yn credu ei hun ei fod yn dihoeni ac yn gwanychu; ond diffoddodd y wreichionen olaf o fywyd o hono fel y diffoddid canwyll.

Chwith genym weled West Bangor heb yr hen gyfaill Trevor Nicolas. Yma y gwelsom ni ef yn fachgen hoew 32 oed, ond dyma yntau wedi myned ar ôl ei dad a'i fam a'i ddau frawd, gan adael ei chwaer, Mrs. Daniel W. Jones, mewn galar.

Claddwyd ef prydnawn Sabboth yn mynwent Slateville, y Parchn. John Cadwaladr a Mr. Stewart yn gweinyddu yn y capel ac ar lan y bedd.
W. C. R.

Y Drych ~ Rhagfyr 16eg 1897.