MR. ROBERT PUGH. PIKE GROVE, RACINE, WISCONSIN.
Rhagfyr 4ydd, 1897, yn Pike Grove, ger Racine, Wisconsin, o anhwyldeb yr afu, Robert Pugh, yn 34 mlwydd oed.Mab ydoedd i Evan Pugh a'i briod, Hendrewaelod. Cwmnantcol, Dyffryn Ardudwy, Meirion, Gogledd Cymru.
Daeth i'r America tua deuddeg mlynedd yn ôl. Stockman ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am rai blynyddoedd yn ngwasanaeth y diweddar Richard Richards a J. L Case, wedi hyny symudodd i Menominee, Michigan.
Rai blynyddoedd yn ôl priododd â Jane Williams o ardal Pike Gvove, ac yn ddiweddar yr oedd wedi dychwelyd, gan feddwl trin fferm ei fam-yn-nghyfraith. Bu yn wael iawn o'r pneumonia yr haf diweddaf, a chymerwyd ef yn sal drachefn o'r afiechyd a fu yn angeuol iddo.
Perchid ef yn fawr gan y rhai ag y bu yn eu gwasanaeth fel dyn ffyddlon a gonest. Yr oedd gobeithion y dyfodol yn addawol iddo ef a'i briod, ond troisant yn siomiant trist.
CydymdeimJir yn ddwvs a'i weddw ieuanc. Yr oedd yn hanu o un o'r teuluoedd parchusaf yn y gymydogaeth ei ganwyd. Yr oedd Hendrewaelod a'r Tywyllnant, fferm arall yn y gymydogaeth, yn etifeddiaeth yn y teulu er's oesau.
Cynaliwyd yr angladd ar y 7fed cyfisol, y Parchn. Thomas Evans a R. T. Roberts, M. A., yn gwasanaethu yn y tŷ ac ar lan y bedd. Anfonodd cyfeillion flodeu-glymau hardd i'w dodi ar ei arch.
T. Ll. W.