MRS. ELINOR ROBERTS. CAMBRIA, MINNESOTA.
Chwefror 4ydd, 1897, yn nhy ei merch a'i mab yn nghyfraith, John Lloyd, Cambria, Minnesota, yn 64 mdwydd a 6 mis oed, Elinor, gwraig Hugh Roberts.Ganwyd hi yn Cedrin, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni oeddynt William ac Elinor Davies.
Daeth i'r wlad hon yn 1854, gyda'i brawd yn nghyfraith, ac arosodd yn Utica, New York. Yn mhen dwy flynerdd ar ôl hyny priododd Hugh Roberts, ac aethant yn fuan i Dubuque, Iowa. Wedi bod yno am 7 mis symudasant i Cambria, Wisconsin, lle buont am un flynedd ar ddeg. Daethant oddiyno i Brown County, Minnesota, ac yn mhen naw mlynedd i Cambria.
Bu yn fam i saith o feibion a thair o ferched, o'r rhai y mae yn fyw bedwar mab a dwy ferch - William, Esay, David, Hugh, Mary ac Elizabeth, oll yn y gymydogaeth hon oddieithr Mary, yr hon sydd yn byw gyda'i theulu yn Saratoga, Minnesota.
Perchid Mrs. Roberts gan bawb; fel y profwyd yn ei hangladd, yr hwn oedd yn un o'r rhai lluosocaf welwyd yn yr ardal, er fod y tywydd yn arw. Cofleidiodd grefydd yn ieuanc, a derbyniwyd hi i eglwys Soar, lle yr oedd ei rhieni yn aelodlau a'i thad yn ddiacon parchus. Yn Utica ymunodd a'r eglwys Gynulleidfaol, dan ofal y Parch. E. Griffith, ac er iddi symud aeth a'i chrefydd gyda hi, a bu yn aelod ffyddlon o eglwys Salem trwy y blynyddau y bu yma. Ond yn ei deulu mae adhabod un oreu. Yr oedd rhyw un yn nghyfarfodydd Moody yn hynod o fywiog ac yn cadw tipyn o swn, yr hyn barodd i un o gyfeillion yr efengylwr ddweyd wrtho, "Y mae yn rhaid fod y dyn yna yn grefyddol iawn." "Wel," ebai Mr. Moody, "mi garwn i wybod beth mae ei briod yn feddwl o hono, gartref mae dyn i'w adnabod oreu."
Yr oedd Mrs. Roberts yn grefyddol gartref. Pan roddodd ei phriod y geiriau hyny i mi yn destyn pregeth angladdol iddi, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth," gwelais mewn mynyd beth oedd ef yn feddwl o honi.
Claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn mynwent Cambria, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Vaughn Griffith, T. C. a'r ysgrifenydd.
J. E. JONES.