MRS. ELLEN ROBERTS. MAES ELWY, CAMBRIA, WISCONSIN.
Awst 1af, 1897, yn Maes Elwy, ger Cambria, Wisconsin, Mrs. Ellen Roberts, priod William B. Roberts yn 76 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Plas Dulas, Penisarwaen, ger Llanrug, Arfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni ydoedd Henry Parry Jones a Jane Jones.
Priododd W. B. Roberts o gymydogaeth Bethel, a bu iddynt saith o blant, pedwar o'r rhai sydd yn fyw, y tri mab yn Maes Elwy, ac un ferch yn yr Hen Wlad, sef Jane, priod William Pritchard, Hafod Fach, ger Bangor, Arfon.
Claddwyd hi yn barchus yn mynwent Cambria prydnawn dydd Mercher, Awst 3ydd, pryd y gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd ac R. M. Williams (Pres.),. Cambria. Yr oedd yn gynhebrwng lluosog, er fod yr amaethwyr yn brysur yn nghanol y cynauaf.
Yr Arglwydd gofio ei addewid am y plant bychain sydd wedi eu gadael yn amddifaid heb fam, na nain, mwyach i ofalu am danynt. Mae y teulu wedi cael dwy brofedigaeth lem yn agos iawn i'w gilydd, sef claddu y ferch a'r fam. Bydded iddynt gofio geiriau y Salmydd, "A galw arnaf fi yn nydd trallod, mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi."
EDWARD MORGAN.