MR. GRIFFITH ROBERTS. ROCHESTER, MINNESOTA.

Tachwedd 15fed, 1897, yn Rochester, Minnesota, y gŵr tawel a'r Cristion gonest a ffyddlon, Griffith Roberts, Minneapolis, yn 73 mlwydd oed.

Ganwyd ef mewn ffermdy o'r enw Cefn Trefor ger Talsarnau, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon pan yn lled ieuanc, a sefydlodd dros amryw flynyddau yn ardal Cambria, Wisconsin. Yn 1867 symudodd ef a'i deulu i Bristol Grove, Minnesota; ac yno ar fferm y buont yn byw yn gysurus a llwyddianus hyd 1882, pryd y symudasant i Minneapolis. Yr oedd Mr. Roberts wedi colli ei iechyd er's cryn amser, ac yn graddol ddadfeilio.

Dygwyd ei gorff o Rochester i Lime Spring, an oddiyno ar yr 16eg cyfisol i Bristol Grove, ei hen ardal, yn yr hon y mae lle beddrod y teulu. Daeth yn nghyd luaws o'i berthynasau, cymydogion a hen gydnabod i dalu y gymwynas olaf iddo, a dodwyd yr hyn oedd farwol yn y bedd mewn modd parchus, ac mewn diogel obaith am adgyfodiad gwell.

Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ, yn y capel, ac wrth y bedd gan y Parch. O. R. Morris a'r ysgrifenydd.

Mae mewn hiraeth a galar ar ôl ein brawd ymadawedig ei anwyl briod wedi ei gadael yn weddw, a phump o blant wedi eu gadael yn amddifad o dad, sef Mrs. John O. Jones, Minneapolis; Mrs. Hugh J. Jones, Bristol Grove, Minnesota; Mrs. Daniel Johns, Cotter, Iowa; John G. Roberts, Lime Spring, a David E. Roberts, Minneapolis - oll mewn amgylchiadau cysurus, yn aelodau ffyddlon o eglwys Crist, ac yr oeddynt oll yn bresenol yn angladd eu tad. Duw yn ei breswylfa sanctaidd a fyddo yn dad i'r amddifaid ac yn farnwr i'r weddw.
H. MEURIG PUGH.

Y Drych ~ Rhagfyr 2ail 1897.