MR. JOHN J. ROBERTS. ARVONIA, BUCKINGHAM COUNTY, VIRGINIA.

Ionawr 26ain, 1897, yn Arvonia, Buckingham County, Virginia, John J. Roberts, yn 64 mlwydd, 6 mis ac wyth niwrnod oed. Bu yn wael am amser maith.

Ganwyd ef yn Bwlch, Cwmyglo, Sir Gaernarfon, Gorphenaf 18fed, 1832. Daeth i'r wlad hon pan oedd ond ychydig gydag ugain oed, gan ymsefydlu yn West Bangor, Pennsylvania. Yn mhen tair blynedd symudodd i Virgina, yn yr hwn le y bu hyd ei farwolaeth, oddigerth blwyddyn a haner yn Georgia yn adeg y rhyfel.

Hydref 16eg, 1859, priododd Miss Martha Perrow, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd y diwedd. Ganwyd iddynt wyth o blant, tri o'r rhai a ragflaenodd eu tad, sef Willie W., Mary Magdalen a John R.; ac y mae yn aros Anne E., Ida Jane, Edward E., a Martha E., a Teresa V. Hefyd y mae iddo frawd yma, Edward Roberts, a chwaer yn Nghymru yn mhentref Cwmyglo. Nid oedd ond rhyw ddau neu dri o Gymry yn y lle o'i flaen.

Ychydig gyda 30 mlynedd yn ôl agorodd chwarel gyda'i gefnder, John W. Edwards, a buont yn hynod lwyddianus; dywedir ei bod yn un o'r chwarelau gorau yn y Talaethau Unedig. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod gyda'r Masons yn y lle; (ac yn un o'r charter members) a daethant yn orymdaith i'w angladd; oni bai gerwinder y tywydd buasai o leiaf bedair o lodges eraill wedi dyfod i dalu y gymwynas olaf i'w hanwyl frawd.

Am haner awr wedi tri prydnawn y 27ain, symudwyd ei weddillion i addoldy y Presbyteriaid, lle y gweinyddwyd gan y Parch. H. J. Roberts, (B.) Norfolk, Virginia, oddiar Esaiah 38:5: "Trefna dy dŷ," a rhoddodd sicrwydd diymwad i bawb fod ein brawd wedi gwneyd hyny. Bu Mr. Roberts yn ymgeledd corff ac ysbryd iddo y ddwy wythnos olaf y bu byw. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd wrth ochr ei blant, ac awd trwy y gwasanaeth terfynol gan y Masons.
E. E. J.

Y Drych ~ Chwefror 25ain 1897.