MR. LEWIS EVAN ROBERTS. SEATTLE, WASHINGTON.

Chwefror 19eg, 1897, yn Seattle, Washington, yn 52 oed, Lewis Evan Roberts, gan adael ar ei ôl weddw a chwech o blant.

Brodor oedd Mr. Roberts o Blaenau Ffestiniog - mab i'r diweddar Evan Roberts, Llwyngwril.

Ymfudodd i Seattle ddeg mlynedd yn ôl. Yr oedd ganddo dai a thiroedd, ond ychydig iawn soniai ef am danynt. Ei ymffrost bob amser oedd Crist a'i groes. Pan yn Nghymru dewiswyd ef yn arweinydd canu cynulleidfaol, yr hon swydd gyflawnodd yn ganmoladwy, fel y dengys y rhoddion dderbyniodd ar ei ymadawiad i'r Gorllewin.

Yr oedd yn un o'r symudwyr i gael capel Cymreig yn Seattle, a bu yn un o'r elders yn hir, yn arweinydd y canu ac ymddiriedolwr.

Dangoswyd y parch mwyaf iddo ef a'i deulu ar ddydd ei gladdedigaeth; a bu y Foresters yn ffyddlon fel arfer. Gweinyddwyd yn y tŷ yn Gymraeg gan y Parch. W. Davies, ac yn Saesneg gan y Parch. G. F. Whitworth, D. D., ac yn Lake View Cemetery gan Mr. Davies. Cawsom naws nefolaidd fwyn, er fod yr oruchwyliaeth yn anafol iawn.

Y Drych ~ Mawrth 11eg 1897.