MRS. MARGARET E. LEWIS ROBERTS. LIME SPRINGS, IOWA.
Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs. Margaret E. Roberts, anwyl briod Richard J. Roberts, yr hyn a gymerodd le boreu dydd Sadwrn, Mawrth 27ain, 1897, yn ei chartref yn Lime Spring, Iowa, yn 64 mlwydd oed, ar ol cystudd lled faith o'r darfodedigaeth.Yr oedd Mrs. Roberts yn ferch i Thomas ac Elizabeth Lewis, Collinsville, Lewis County, New York, wedi ei geni yn 1833 yn y Fedw, plwyf Llangower, gerllaw y Bala, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn 1842, pan yn 8 mlwydd oed, gan ymsefydlu yn ardal Collinsville, New York. Yn 1859 ymbriododd gyda Richard J. Roberts o'r un ardal, gan drigianu wedi hyny am rai blynyddoedd yn Turin, New York. Treuliodd felly haner ei bywyd yn Swydd Lewis, lle y bu yn ffyddlon a gweithgar gydag achos crefydd yn eglwys Collinsville, a lle mae ei choffadwriaeth yn barchus iawn yn mhlith ei chydnabod a'i chymydogion yn y cylchoedd.
Yn 1868 symudasant fel teulu i fyw yn Lime Spring, Iowa, lle y treuliodd weddill ei hoes. Glynodd yn ffyddlon gydag achos y Gwaredwr yn y gorllewin yn nghanol rhwystrau ac anhawsderau, a rhai profedigaethau chwerwon, ac yn neillduol felly y brofedigaeth o golli ei hanwyl Clinton, eu hunig blentyn, yr hwn a fu farw yn bymtheg mlwydd oed.
Safai Mrs. Roberts yn uchel ei pharch yn mhlith Cymry a Saeson y sefydliad, o herwydd ei chymeriad crefyddol a'i rhinweddau lluosog. Yr oedd yn gymwynasgar, yn siriol a charedig, yn lletygar a chymdeithasgar, a'r cyfan wedi eu nawseiddio gan ysbryd ac egwyddorion crefydd. Yr oedd yn byw yn grefyddol gartref, fel ag i adael argraff grefyddol ar feddyliau ei mab a'i merch fabwysiedig a fagwyd yn y teulu. Yr oedd ffyrdd crefydd yn hyfrydwch iddi yn ei hiechyd ac yn ei chystudd. Bu yn nychu yn raddol am ddwy neu dair blynedd.
Cafodd gymorth y meddygon goreu, a phob mantais yn nglyn a newid hinsawdd, ond profodd y cwbl yn aneffeithiol. Bu hi a'i phriod yn treulio un gauaf yn Florida, a'r un dylynol buont yn ymweled a'u brawd a'i deulu, Mr. a Mrs. John W. Roberts, diweddar o San Bernardino, California, ond y gauaf diweddaf teimlai yn rhy wael i fyned oddicartref. Daliodd yn lled dda yn ngwyneb y tywyddd, hyd nes i'r grip ymosod arni, yr hyn yn fuan iawn a brofodd yn angeuol.
Yr oedd yn ystyriol o'i gwendid, ond teimlai yn dawel a boddlon i ewyllys yr Arglwydd. Bu yn cael ei blino gan ofn marw, ond cyn myned i'r glyn cafodd waredigaeth hollol, a nerth i orfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Gadawodd dystiolaeth eglur ar ol fod hen adnodau y Beibl a ddysgodd pan yn ieuanc yn rhoddi nerth a dyddanwch i'w meddwl. Teimlai yn hyderus fod yr Arglwydd Iesu yn Geidwad addas a digonol ar ei chyfer, a hoffai adrodd amryw adnodau, megys "Canys felly y carodd Duw y byd," a.y. "Canys nid oes i ni archoffeiriad heb fedru cyd-ddyoddef gyda'n gwendid ni," a.y. ac hefyd rai o'i hoff emynau, ac yn eu plith yr emyn adnabyddus, "Rock of ages, cleft for me," a.y.
Dywedai y buasai yn dda ganddi fyw yn hwy er mwyn ei theulu, ond yr oedd yn foddlawn i ewyllys yr Arglwydd. Teimlai weithiau ofn poenau angeu, ond yn y diwedd pan ddaeth yr amgylchiad aeth drwyddo yn dawel ac esmwyth, gan huno yn yr Iesu, fel y gellir dweyd: "Gwyn fyd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd."
Gadawodd ar ei hol mewn galar dwys a hiraeth am dani, ei hanwyl briod, Richard J. Roberts, a mab a merch fabwysiedig, y Parch. T. Henry Lewis a'i briod, New Brighton, Minnesota, a Mrs. John G. Roberts a'i phriod, Lime Spring. Hefyd, un brawd, John T. Lewis, Butte, Montana, a dwy chwaer, Mrs. Richard Richards, Remsen, New York, a Mrs. R. R. Meredith, Chicago, heblaw lluaws eraill o gyfeillion a pherthynasau.
Cymerodd y claddedigaeth le y dydd Llun canlynol. Cynaliwyd y gwasanaeth crefyddol yn y capel Cymreig, lle yr oedd tyrfa wedi dyfod yn nghyd fel arwydd o'u parch i'w choffadwriaeth, ac o'u cydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth. Pregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. O. R. Morris, ac yn Saesneg gan y Parch. J. C. Jones, Chicago.
Hebryngwyd y gweddillion i'w claddu yn mynwent Lime Spring.
E. C. Evans.