MRS. ANN JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn Remsen, Caerefrog Newydd, Ebrill 4ydd, 1848, Mrs. Ann Jones, gwraig Mr. Griffith A. Jones, yn y 73 mlwydd o'i hoedran.

Brodor ydoedd o blwyf Nefyn, swydd Gaernarfon. Yr oedd yn y wlad hon ers yn agos i 21 mlynedd. Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd yn nyddiau ei hieuenctyd, a pharhaodd yn ffyddlon hyd angeu. Bu yn arddel yr enw mawr yn agos i ddeunaw mlynedd a deugain. Yn nghapel Edeyrn y derbyniwyd hi yn aelod, ac yno y treuliodd ei thymor crefyddol yn Nghymru, a pharhaodd yr un mor ffyddlon a chrefyddol ar ol dyfod i America. Y deng mlynedd diweddaf a dreuliodd gyda yr Annibynwyr. Yr un gyffelyb oedd Ann Jones pa le bynag a chyda pha enwad bynag y byddai yn cartrefu - ei Christ a'i chrefydd oedd ei phethau hi yn mhob man.

Rhai o'i rhinweddau oeddynt, boddlonrwydd, cariad, sirioldeb, parodrwydd i ymddyddan am bethau crefydd, cof rhagorol a thrysorau ei lonaid o'r hen bregethau gan hen bregethwyr Cymru, a lleferydd da i'w hadrodd nes y byddai yn wledd wastadol yn ei chymdeithas. Un wastad iawn gyda chrefydd ydoedd, bob amser yn bresenol os byddai modd yn y byd, a'i hagwedd a'i hadsain yn dangos ei bod yn mawr gymeradwyo y gwirioneddau a fyddai yn eu gwrando.

Yr oedd yn byw yn nhy y capel, a mawr y golled i ni ei cholli. Yr oedd pawb yn rhydd a dedwydd gyda yr hen chwaer, ac yn wastad byddai y gyfeillach yn tueddu at grefyddoli y meddwl.

Ei chystudd diweddaf a'i hangeu a ddaeth mewn ffordd dra ryfedd. Boreu 29ain o Fawrth, wrth godi o'r gwely, o herwydd pen ysgafndod, syrthiodd ar y llawr wrth y gwely, a thorodd ei chlun. Ac yn gymaint a'i bod yn hynod gnawdol, a'i bod yn arfer cael ei blino yn drwm ar droion gan ddiffyg anadl, yr oedd y ddamwain a ddygwyddodd iddi yn fwy nag a allai ddwyn; aeth yn fuan yn hynod glaf, ond yn benaf trwy ddiffyg anadl. Nid llawer a allodd ei ddweyd yn ei chystudd, ond dywedodd lawer yn ei bywyd, a digon wrth farw i sicrhau ei bod yn marw mewn ffydd. Ei gweddi a'i dymuniad oedd cael marw, - nid oedd am fyw yn hwy, - a chafodd yr hyn a fawr ddymunai, sef myned adref i weled yr Iesa anwyl.

Claddwyd ei rhan farwol yn mynwent capel Bethel, pryd y pregethwyd gan yr ysgrifenydd oddiwrth Luc 2: 29, 30, a'r Sabboth canlynol yn Peniel oddiwrth Job 5: 26.

Cafodd y fraint yn ei bywyd o weled ei theulu oll dan faner Iesu Grist. A gadawodd i alaru ar ei hol ei phriod oedranus a phump o blant, pa rai sydd mewn oedran ac yn y selyllfa briodasol oll. Dangosodd pawb Cymry yn Remsen bob caredigrwydd at yr hen chwaer yn ei chystudd yn nghyd a'r gymwynas olaf i'w rhan farwol.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1848.