MRS. ELIZABETH THOMAS. CAMBRIA, WISCONSIN.
Mai 18fed, 1897, yn 66 mlwydd oed, yn ei chartref yn Cambria, Wisconsin, Elizabeth Thomas, gweddw Evan T. Thomas.Ganwyd hi yn Coity Bach Dyffryn Conwy, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon 43 mlynedd yn ôl. Wedi byw gerllaw Utica, New York, am ddwy flynedd symudodd allan i Wisconsin.
Claddwyd ei phriod 14 mlynedd yn ôl yn Cambria. Bu iddynt ddwy eneth ac un mab, sef Mrs. William P. Jones, Racine, a Mrs. John D. Jones, Winona, Minnesota, a'r mab ydyw William O. Thomas, Lime Spring, Iowa. Mae ganddi ddau frawd, sef John M. Williams, Chicago, ac Elias Williams, Caellwyngrudd, ger Bethesda, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, a dwy chwaer, Mrs. Margaret Jones, gweddw Samuel Jones, Llwybr Main, Mynydd Llandegai, Bethesda, a Mrs. Ellen Williams, Talybont, ger Conwy.
Bu Mrs. Thomas yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd yn eglwys y Metihiodistiaid yn Cambria, Wisconsin am flynyddoedd lawer. Aelod dystaw ydoedd, a chymydog heddychlawn a diabsen.
Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Cambria prydnawn dydd Ian, Mai 20fed. Cynaliwyd gwasanaeth yn y capel am ddau o'r gloch gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. R. M. Williams, (Pres.) Cambria.
EDWARD MORGAN.