MRS. MARY THOMAS. SOUTH WILKESBARRE, PENNSYLVANIA.

Ebrill 8fed, 1897, yn South Wilkesbarre, Mary Thomas, gweddw John E. Thomas.

Cafodd angladd lluosog, Sul yr lleg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. D. C. Edwards. Ei henw morwynol ydoedd Mary Jones, merch Robert Jones, Nefyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Priododd Mr. Thomas yn 1846. Yn ngwanwyn 1872 ymfudasant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Upper Lehigh, o'r hwn le y symudasant i South Wilkesbarre, ac yma y preswyliodd hyd ei marwolaeth.

Cafodd gystudd maith a chaled, a dyoddefodd lawer yn amyneddgar a dirwgnach. Anrhydeddodd grefydd Crist ar ei gwely angau, a bu crefydd Crist yn gymorth a dyddanwch iddi hithau yn ei ddyoddefiadau.

Felly terfynodd bywyd fu yn wasanaethgar i grefydd am lawer o flynyddau; ond ni therfynodd argraffiadau daionus ei bywyd crefyddol. Mae y rhai hyny yn aros yn ei choffadwriaeth fendigedig, ac yn mywydau ei phlant, yn etifeddiaeth gyfoethog i'r gwahanol eglwysi ac i'r ardal.

Gadawodd ar ei hol un ferch a phump o fechgyn, pa rai sydd yn aelodau defnyddiol gyda'r gwahanol enwadau Cymreig yn y dref. Hir oes iddynt oll i wasanaethu Duw eu tad a'u mam.

Y Drych ~ Mai 20fed 1897.