MRS. GRACE WARRENER. HERMITAGE AVENUE, CHICAGO.
Rhagfyr 2ail, 1897, yn 1967 Hermitage Avenue, Chicago, yn 39 mlwydd oed, Mrs. Grace Warrener, merch Robert a Jane Roberts, Caehaidd, Llanfairfechan, Gogledd Cymru.Ymbriododd ag Edwin Warrener yn 1879 ac ymfudodd y ddau yn 1885 i Boston, oddiyno symudasant yn 1887 i Braceville, Illinois, ac yn 1890 i Chicago.
Ganwyd iddynt wyth o blant, o'r rhai y mae chwech yn fyw.
Mae Mr. Warrener yn ngwasanaeth y North Side Street Car Company er's blynyddau. Oherwydd pellder ffordd nid oedd Mrs. Warrener yn alluog i ddylyn y cyfarfodydd yn yr eglwysi Cymreig, ond bu yn aelod ffyddlon o eglwys Mr. Moody; ac amser ei marwolaeth yn aelod o'r Belden Avenue, Baptist Church.
Cydymdeimlir yn ddwys a'r priod galarus a'r plant.
Rhagfyr 30ain daeth tyrfa barchus yn nghyd i'r Endeavor Presbyterian Church i ddangos eu parch a'u cydymdeimlad â'r teulu.
Gweinyddwyd yn Saesnag gan ei gweinidog y Parch. Myron W. Hayes, ac yn Gymraeg gan Robert Humphreys o'r McCormick Theological Seminary, ac aeth Urdd y Rechabiaid, i'r hon y perthynai, drwy eu gwasanaeth hwythau.