MR. GOMER WILLIAMS. WEST PAWLET, VERMONT.

Mehefin 13, 1897, Gomer Williams, West Pawlet, Vermont, yn 46 mlwydd oed.

Mab ydoedd i William Williams (Gwilym Bethesda). Ganwyd Gomer Williams yn Bethesda, Arfon. Efe ydoedd yr ieuengaf o'r teulu lluosog, o'r rhai y mae pump yn fyw. Bu yn glaf am ddwy flynedd a haner o dan gyd-gyfarfyddiad o amryw afiechydon, ond y Bright's disease oedd y mwyaf amlwg. Dyoddefodd lawer o boen y misoedd diweddaf. Bu braidd yn ddall am ranau o'r amser, fel yr oedd bywyd yn faich iddo.

Ychydig iawn, os dim manteision addysg a dderbyniodd yn more ei oes, ond trwy ymdrech a dyfalbarhad a chymorth ei briod yr oedd wedi dod yn ddarllenwr ac ysgrifenwr lled dda.

Ymfudodd ef a'i fam a rhai eraill o'r plant i America tua 1865, a buont yn trigianu yn Middle Granville, New York, am amryw flynyddau.

Tua 1869, priododd Ellen Jane Lloyd, merch yr hen gymeriad adnabyddus yn mysg y chwarelwyr, Mr. Lloyd. Dyma lle bu cartref clyd a gofalus i ugeiniau o chwarelwyr o flwyddyn i flwyddyn. Ni bu bywyd ein cyfaill ymadawedig yn glir iawn mewn ystyr ragluniaethol, ond yr oedd heulwen yn tywynu ar yr aelwyd bob amser. Cafodd deimlo nerth yr hen benill, "Dysgwyl pethau gwych i ddyfod, croes i hyny maent yn dod." Er hyny credwn fod a wnelo amgylchiadau bywyd a ffurfio ei gymeriad i raddau pell iawn.

Bu yn hynod dawel yn ei gystudd hirfaith a phoenus. Yr oedd yn gymydog caredig, yn dad tyner a gofalus, ac ni gredwn yn Gristion ffyddlawn. Dyma yn ddiau oedd yn nodweddu ei gymeriad - ffyddlondeb ac ufudddod i gyflawni yr hyn a allai goreu ag y medrai. Teimlwn yn chwith ar ei ôl. Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru ar ei ôl. Cymerodd yr angladd le ar yr 16eg, pryd y daeth torf fawr yn nghyd o'r gwahanol ardaloedd i dalu y gymwynas olaf i un o hen sefydlwyr Cymreig yr ardaloedd. Gwasanaethwyd gan ein gweinidog, y Parch. John Williams, Granville.

Daearwyd ei weddillion yn mynwent Middle Granville, New York. Bydded i'r teulu galarus ymgysuro yn yr addewid, fawr fod Tad yr amddifaid a Barnwr y weddw yn fyw.

Y Drych ~ Awst 5ed 1897.