MRS. JANE WILLIAMS. ARVONIA, BUCKINGHAM COUNTY, VIRGINIA.

Ionawr 28ain, 1897, yn Arvonia, Buckingham County, Virginia, cyn cyraedd 47 mlwydd oed, Mrs. Jane Williams, priod Henry G. Williams, gynt o'r Gorlan Uchaf, a merch Evan a Dorothy Roberts, Penyfoel, Llandinorwig.

Cafodd ergyd o'r parlys Ionawr 19eg, tra newydd gyraedd ar neges i dŷ un o'i chymydogion; a bu yn graddol nychu am naw diwrnod.

Bu yn is-athrawes yn ysgol ddyddiol Llandinorwig am ddeng mlynedd, ac ar ei phriodas yn eglwys y plwyf, Hydref 5ed, 1876, cyflwynwyd anrheg hardd iddi trwy law y rector, D. O. Davies, fel arddangosiad o'r parch goleddid tuag ati. Buont yn byw ar Water St., Llanberis, am dair blynedd, pryd y symudasant i Lerpwl, yna i Birkenhead, lle bu hi yn hynod ffyddlon i ddysgu plant Ysgol Sul Brassey Street, cangen o Ysgol Park Field (T. C.), lle bu yn aelod nes eu hymfudiad i Virginia yn 1894.

Profodd ei hun yn fam dyner, yn ddynes rinweddol, ac yr oedd iddi luaws o gyfeillion, fel y profwyd yn ei hangladd ddydd Sadwrn, Ionawr 30ain.

Gweinyddwyd yn y tŷ yn Gymraeg, ac hefyd yn nghapel y Presbyteriaid, gan y Parch. H. J. Roberts, Norfolk, Virginia. Yn y fynwent canwyd emyn Cymreig.

Gadawodd Mrs. Williams briod a thri o blant i alaru er ei hol. Nerth a gaffont i droi eu golygon at eu tad nefol.

Y Drych ~ Chwefror 11eg 1897.