MRS. MARGARET J. WILLIAMS. NEW YORK MILLS, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 11eg, 1897, yn New York Mills, ger Utica, New York, bu farw Margaret, priod Humphrey J. Williams yn 63 mlwydd 3 mis a diwrnod oed.

Yr oedd Mrs. Williams yn un o'i personau hyny ag y mae yn anhawdd iawn eu hebgar o'r byd hwn. Ymddengys i ni fel pe byddai angeu yn camsynied, ac yn lle symud yr hen a'r diwerth, yn gwneyd ei oreu i ddyrysu cymdeithas, rhwygo teuluoedd, a chymeryd ymaith y rhai oedd mwyaf o angen amdanynt yma ar y ddaear. Un o'r cyfryw oedd Mrs. Williams.

Fel gwraig, yr oedd yn hawddgar a charedig. Fel mam, yn siriol a gofalus. Fel aelod eglwysig, yn ffyddlon, selog a lletygar iawn. Yr oedd bwyd a llety bob amser dan ei chronglwyd i weinidogion yr efengyl yn neillduol, a'i chroesaw mor galonog fel y teimlent gartref cyn gynted ag yr elent i'w thy. Teimlai yn fraint a hyfrydwch o'r mwyaf i gael ymgeleddu gweision yr addfwyn Oen.

Yr oedd yn ddiwyd a gofalus gydag amgylchiadau y bywyd hwn, ac yn gwneyd cartref bob amser yn gysurus a dedwydd i'w phriod a'i phlant. Cafodd rai cystuddiau trymion, a blinid hi yn fynych gan wendid, ond yr oedd bob amser yn siriol a gwrol. Cafodd fyw i fagu ei phlant a'u gweled mewn amgylchiadau cysurus yn mlynyddoedd diweddaf ei boes. Ymddangosai Rhagluniaeth yn gwenu a'i hiechyd hithau wedi gwella yn rhyfeddol.

Yr oedd ei phriod a hithau wedi prynu tŷ helaeth a chyfleus, ac ymddangosai prydnawnddydd bywyd dedwydd o'u blaen. Ond yn yr adegd dedwydd hono dechreuodd gwyno fod poen yn ei hochr. Dechreuodd chwydd godi a difa ei nerth. Bu yn yngynghori ag amryw feddygon heb gael dim lles. O'r díwedd penderfynodd Dr. James, Whitesboro, o rhai o feddygon goreu Utica, nad oedd dim i'w wneyd ond agop y dolur a thynu y drwg allan. Er ei bod y pryd hwnw wedi myned yn wan iawn, eto dan driniaeth fedrus a gofal neillduol Dr. James, gwellhaodd lawer nes peri iddi hi a llawer eraill gredu y buasai yn cael llwyr adferiad am dymor.

Rywbryd yn ystod ei afiechyd, breuddwydiodd ei bod wedi myned at ddrws y nef. Cyfarfu rhaf o aelodau New York Mills a hi, a dywedodd un o honynt wrthi "Mae eich lle yn barod yma, ond mae eich eisiau ar y ddaear am dymor eto." Siriolodd y breuddwyd hí yn fawr am dymor. Gobeithiai ei bod i wella, a darfu iddi wella llawer er ei bod yn wan ac yn methu bwyta ond ychydig. Ond er medrusrwydd a gofal y meddyg, ei gobaith cryf hithau yn nghyd a dymuniadau ac ymdrechion perthynasau a chyfeillion, angau a orfu o'r diwedd. Dyoddefodd boen mawr yn hynod dawel a siriol.

Er y gobeithiai am, ac y dymunai wella, nid oedd yn ofni marw, ond yn gadael y cyfan i ewyllys Duw, gan gredu y gwnai efe bob peth yn y modd goreu.

Merch ydoedd i'r diweddar Griffith ac Ana Jones, Tanycapel, plwyf Penrhos, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon. Priododd â Humphrey J. Williams yn 1852.

Ymfudasant i America yn mhen ychydig wythnosau wedi priodi. Daethant i Western, New York, lle yr arosasant tua thair blynedd. Symudasant i Floyd, New York, lle yr arosasant am ddeng mlynedd. Tra yno ymunasant ar eglwys dan ofal y Parch. Edward Jones, wedi hyny o New York Mills. Yn 1865, symudasant i New York Mills, lle y treuliodd hi y gweddill o'i hoes.

Yr oedd yn flaenllaw, selog a gweithgar gyda phob peth a dueddai er adeiladaeth yr eglwys. Mae ei lle yn wag, a theimlir colled fawr ar ei hol.

Mehefin 14eg, 1897, ymgynullodd tyrfa fawr i'w hangladd. Gweddiodd y Parch. David Pritchard, Rome. Anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. Thomas M. Owen a'r Parch. E. Gwesyn Jones, Utica. Claddwyd hi yn mynwent New York Mills, lle yr oedd rhai o'i phlant wedi eu claddu eisioes.

Heblaw ei phriod, gadawodd i alaru ar ei hol chwe' mab ac un ferch, Johu yn Indianapolis, William yn Syracuse, Griffith yn Saquoit, Franklin, Humphrey a Henry, yn New York Mills. Mae y ferch Miss Mary Ellen yn byw gartref. Hyderwn y bydd iddynt gael crefydd eu mam yn etifeddiaeth, a Duw eu tad yn ddiffynydd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1897.