MRS. MARY WILLIAMS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 26ain, 1897, yn Steuben, New York, Mrs. Mary Williams, yn 88 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Robert a Jane Roberts, Pen y Bryn, plwyf Bryncroes, Caernarfon.

Ganwyd hi yn 1809. Pan yn 23 oed ymfudodd i'r Talaethau Unedig, a'r mis Mawrth canlynol priododd John Williams o Sir Fôn; a bu hi yn gydymaith ffyddlawn iddo hyd ei farwolaeth.

Ganwyd ididynt wyth o blant; ond bu pump farw yn eu plentyndod, ac un ferch, Ellen Grace, Gorphenaf 20fed, 1871, sef yr un flwyddyn ag y bu y tad farw.

Mae Jane, gwraig y Parch. G. G. Pritchard, yn byw yn Kansas; Margaret, gweddw William Williams, yn byw yn Steuben, a chyda hi yr oedd y fam yn gwneyd ei chartref ac yn derbyn yr ymgeledd angenrheidiol yn ei henaint. Bu iechyd Mrs. Williams yn weddol dda hyd Ionawr diweddaf, pryd y dechreuodd wanychu, a gwanychu a wnaeth hyd ei marwolaeth.

Cafodd ei dychwelyd 70ain mlynedd yn ôl, ac ymunodd gyda'r Wesleyaid a pharhaodd yn ffyddlawn hyd y diwedd. Cymerai ddyddordeb bob amser yn ngwaith ac achos yr Arglwydd, a byddai yn haelionus iawn tuag ato. Arferai gerdded milldir neu ddwy i fyned i'r moddion wythnosol. Cymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaeth, yr hyn oedd yn beth anghyffredin iawn i wragedd y dyddiau hyny; ac yr oedd yn nerthol iawn mewn gweddi. Gadawodd esiampl dda ar ei hol, fel y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig.

Er fod y ffyrdd yn ddrwg a'r hin yn anffafriol, ymgynullodd nifer lluosog i'w hangladd, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. L. B. Gray, Remsen, ac eraill.
D. T. DAVIES.

Y Drych ~ Gorphenaf 22ain 1897.


MRS. MARY WILLIAMS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I, Mary Williams, widow of the late John Williams of Steuben, mindful of the uncertainties of human life do make, publish and declare this my last Will and Testament in manner following.

First : After the payment of my just debts and funeral expenses I give and to my grandaughter Ellen Grace Griffith daughter of Morris D. Griffith of Steuben the sum of one hundred dollars, in case she lives to the age of twenty one years, and in case that she should die before arriving at that age then the said one hundred dollars shall be given to my daughter Margaret Williams.

Second : I give, devise and bequeath to my grandson Robert Prichard, son of Griffith G. and Jane Prichard, now living in the State of Kansas fifty dollars when he arrives at the age of twenty one years, and in case he should not live to that age then the said fifty dollars shall be given to my daughter Margaret Williams.

Third : I give, devise and bequeath to my daughter Jane wife of Griffith G. Prichard living in the State of Kansas the sum of five dollars within one year after my decease.

Fourth : All the rest, residue and remainder of all my estate both real and personal I give, devise and bequeath to my daughter Margaret Williams absolutely and forever.

Fifth : I hereby nominate and appoint my daughter Margaret and Joseph J. Francis the Executor of this my last Will and Testament and hereby authorize and inform them the said Margaret and Joseph J. Francis to compound, compromise and settle any claim or demand which may be against or in favor of my said estate.

In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this 6th day of August 1879.
The mark of Mary Williams.

Signed, published and declared by the said testatrix to be his last Will and Testament in the presence of us who have signed our names at her request as witnesses in her presence and in the presence of each other.
Joseph T. Francis residing in the Town of Remsen Oneida County.
Robert W. Roberts residing in Remsen Oneida County.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.