MR. RICHARD O. WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Mehefin 22ain, 1897, yn Bangor, Pennsylvania, Richard O. Williams, mab Robert O. ac Annie E. Williams, yn 16 mlwydd oed.Ganwyd Richard yn Coedyparc, Bethesda, Gogledd Cymru, ond trigai ei rieni er's amrai flynyddau yn Bangor, Pennsylvania.
Achos ei farwolaeth ydoedd hemorrhage. Yr ydoedd yn fachgen bywiog a llawen, yn ffyddlon i foddianau gras, ac yn aelod yn nghapel M. E. Cymreig Bangor.
Claddwyd ef Mehefin 26ain. Cafodd gladdedigaeth lluosog a pharchus, a dangoswyd cydymdeimlad gwirioneddol a'r rhieni yn eu profedigaeth.
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. Thomas Roberts.