MRS. SYDNEY WILLIAMS. ERW WEN, WAUKESHA, WISCONSIN.
Medi 10fed, 1897, Mrs. Sydney Williams, Erw Wen, Waukesha, Wisconsin, yn 80 mlwydd oed.Ganwyd yr hen chwaer hon yn ardal Clynog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Daeth drosodd i America yn 1846, y hi a'i gŵr, Robert Williams, ac ymsefydlasant yn ardal Moriah, Waukesha, ac yma y bu hyd ddydd ei marwolaeth.
Bu farw yn dawel, ar y dydd Sabboth, gan ymddiried yn y Gwr y tystiai fod yn dda ganddi am dano er's blynyddoedd lawer. Gollyngwyd hithau mewn tangnefedd, ar ôl aml a blin gystuddiau, ar foreu Sabboth i ddechreu Sabboth, ni gredwn, na ddaw yr un dydd Llun byth ar ei ôl, chwedl Cadwaladr Owen.
Bu iddi chwech o blant, yr oll yn fyw, ac yn yr un gymydogaeth oddigerth John, yr hwn sydd draw yn California. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r gwragedd mwyaf caredig a thyner-galon a welwyd bron un amser. Yr oedd er's blynyddoedd bellach wedi ei chornelu i'r tŷ gan afiechyd, eithr yr oedd yn dra llawen a siriol yn wastadol. Credwn fod y gair hwnw yn llythyrenol wir am Mrs. Williams, "Yn llawen mewn gobaith, yn ddyoddefgar mewn cystudd."
Amddiffyn yr Arglwydd a fyddo dros y teulu yn eu galar ar ôl colli un mor anwyl a gofalus, ac yn enwedig dros yr hen gydmar Robert Williams, wedi bod yn cydfyw gyda'u gilydd yn hapus am yn agos i 60 o flynyddoedd. Ei brofiad yn diau heddyw ydyw yr un a'r eiddo y prydydd pan y dywedodd -
Wedi bod yn hir gyd-deithio
Yn yr anial dyrys maith,
Gormod iddi oedd fy ngadael
Bron ar derfyn eitha'r daith.
Claddwyd hi yn mynwent Jerusalem, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. O. O. Jones ac R. T. Roberts, Racine.