PARCH. JOHN R. DANIEL. RANDOLPH, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Rhwng dau a thri o'r gloch prydnawn dydd Mercher, y 23ain o Fawrth, fel y crybwyllwyd yn fyr yn y "Drych," ymadawodd y nodedig Barch. John R. Daniel a'r fuchedd hon, yn ei gartref yn Engedi, yn mhresenoldeb ei briod a'i blant a lluaws o gyfeillion. Yr oedd yn amlwg er's amryw flynyddau fod ei ddyn oddiallan yn dadfeilio, er fod ei ddyn oddimewn mor fywiog ag erioed. Blinid ef gan ddiffyg anadl, ac yn y misoedd diweddaf aeth ei anhwyldeb yn llawer gwaeth, fel y gorfodid ni i gredu fod ei ymmddatodiad gerllaw. Yr oedd ef ei hun, mae yn ymddangos, wedi cael pob sicrwydd i'w felddwl ei fod i roddi ei dabernacl heibio ar fyrder, a'r un mor sicr fod ganddo "Dy nid o waith llaw tragwyddol yn y nefoedd."

Dywedai hyn wrthyf wythnos bron i'r mynydau y cymerodd ei ymadawiad le, ac nid oedd gwiw i mi ei berswadio, yn amgen, er fod ei ysbryd yn weddol esmwyth. "Y mae y peth yn sicr," meddai. Nid yn unig yr oedd yn foddlon i farw, ond yr oedd yn awyddus i farw. Yr oedd arno "chwant ymddatod," gan gwbl gredu y byddai hyny yn "llawer iawn gwell iddo."

Dywedai un o'i frodyr yn y weinidogaeth mewn llythyr at ei briod y carasai wybod pa fodd y bu farw. Priodol yw dweyd iddo farw yn uniawn fel y bu fyw. Yr oedd John R. Daniel nid yn unig yn feddyliwr mawr, ond hefyd yn gredinwr mawr, fel y cyfeiriwyd yn ei angladd, ond ar y terfyn rhwng y byd naturiol a'r byd ysbrydol mae yn ddiau yr esgynodd i'w climax fel ciredinwr. Siaradai gyda boddhad am destyn un o'i bregethau nodedig, sef "Y mlaen a osodwyd yn Seion, maen safadwy." Wrth ymddyddan, ag ef ac edrych arno, ni bu y dymuniad hwnw erioed yn dod i'n meddwl gyda chymaint o rym — "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn; bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau."

Yn ei farwolaeth ef collwyd yr olaf o'r hen gewri a fu yn wir enwog gynt. Yr oedd wedi ei godi yn y Dalaeth, ac wedi aros ar hyd ei oes yn yr unrhyw. Mae y golled yn un fawr; teimlir hyn yn yr holl gylchoodd yr arferai droi ynddynt. Yr oedd treiddigarweh ei feddwl, yr eiddigedd sanctaidd a'i meddianai dros burdeb a llwyddiant y gwaith yn gyfryw fel pe y llefarai y cytunai pawb ei fod yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo; ac yn fynych byddai eneiniad gyda ei leferydd. Yr oedd y rhagoriaethau hyn mor fawr ynddo fel y gwelid hwy ac y teimilid hwy lawn cymaint yn y Gymanfa ag o fewn cylch y Cyfarfod Dosbarth.

Fel yr oedd yn eithaf priodol, ni chymerodd ei ymadawiad le nes iddo dderbyn yr anrhydedd uchaf a allasai ei enwad yn America estyn iddo, sef Llywydd y Gymanfa Gyffredinol. Ond yn sicr i eglwys fechan Engedi mae y golled fwyaf. Yn ei gartref yr oedd yn fwyaf nodedig, a hyn yn y cyfarfod gweddio, y cyfarfod eglwysig a bwrdd y cymundeb. Yr oedd ei weddiau yn y cyfarfod gweddio bron yn ddiieithriad yn nodedig o ran eu mater a'u priodoldeb o honynt Byddem yn wastad yn teimlo y byddai yn gallu cydio yn nerth ei Dad Nefol; a phan na chymerai ran mewn gweddio, caem gyfarchiad mor bwrpasol a thanllyd nes enyn dawn gweddi yn eraill.

Yn y cyfarfod eglwysig yr oedd yn nodedig iawn. Cyfarfyddai y ddeadell fechan gyda pharodrwydd meddwl, a byddai ei feddyliau wedi tanio ei ysbryd nes goleuo ein deall a gwresogi ein serch- iadau. Y mae y syniad o fod yn y seiat heb John R. Daniel yn llethol i mi, er fod genym henafgwyr galluog a plirof- iadol yn arcs. Efe fu yn gweinyddu wrth Fwrdd y Cymundeb bron yn ddi-eithriad am oddeutu deugain mlynedd. Er mai yr un testyn oedd ganddo, sef marwolaeth y Groes, byddai sylwadau yn hollol newydd bob tro, ac yn dda odiaeth, fel y gallwn gytuno yn hollol a sylw yr henafgwr craff Foulk R. Roberts, "Rhyw newydd wyrth o'i angau drud, a ddaw o hyd i'r golwg."

Cymerodd ei gladdedigaeth le am haner dydd, dydd Sadwrn. Cymerwyd gofal yr angladd gan y brawd John P. Jones. Claddwyd y gweddillion gan y brodyr Thomas D. Roberts, John D. Jones, William W. Rowlands, Benjamin Evans, Thomas Rowlands a'r ysgrifenydd. Arweiniwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. John R. Johns, yr hwn hefyd weinyddodd wrth y bedd. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. Griffith Griffiths. Yn y capel dechreuwyd gan H. W. Griffith, Ripon College, a chafwyd cyfarchiadau gan y Parchn. John R. Jones, William W. Davis, Daniel Thomas, M. A., John E. Jones, R. T .Roberts, M. A., a David Davis, D. D. Yr oedd y gwasanaeth o'r dechreu i'r diwedd yn nodedig o dda, pwrpasol ac effeithiol; ac i ychwanegu at effeithiolrwydd y gwasanaeth canwyd amryw o ddarnau pwrpasol gan gor Randolph, o dan arweiniad W. E. Owen.

Yr oedd lluosogrwydd y cynulliad, o bell ac agos, yn brawf diymwad fod tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio.

Y Drych Dydd Iau, Ebrill 21ain 1898.


REV. JOHN R. DANIEL. RANDOLPH, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

REV. JOHN R. DANIEL, Pastor of the Welsh Calvanistic Church, born in North Wales, Carnarvonshire, November 24th, 1826, son of John Daniel; the family came to New York in July, 1845, and the same year came to Fox Lake, Wisconsin, and settled on eighty acres; was one of the earliest settlers; there were but five or six families in this neighourhood before him, among whom were Mr. Evans, Catherine Foulkes, Ebenezer E. Jones, M. Burgitt and a Mr. Dart; Mr. Daniel now has a fine farm of 145 acres that he has got through his industry and frugality; his father John Daniel, was Deacon of the Welsh Church for many years, and was one of the founders of the Lake Emely Church, and one of the most prominent men of the settlement; was a Deacon in the church in Wales for about twenty years.

He married Jane Roberts and had two children - John and Margaret, Margaret married Daniel R. Jones, a well to-do farmer, and a member of the Lake Emely Church. Their father died July 4th, 1859. His son, Rev. John Daniel, was married, October 17th, 1860, to Ellen Owens, daughter od William Owens, a prominent farmer in Columbus; he had four children - John, born, September 29th 1861, and is at home; William, born June 8th, 1863, is living at home; Catherine, born September 24th, 1866, Josiah, born November 7th, 1877.

Mr. Daniel was ordained in Spring Vale in June 1856; commenced to preach in 1848 and 1849; preached in a private house first, then in a schoolhouse, and now in a fine church. Mr. Daniel was a strong Anti-slavery man, and was of good service to the Union case.

Dodge County History.