MRS. ANN DAVIES. LEATHERWOOD, OHIO.

Awst 21ain, 1898, yn ardal Leatherwood, Ohio, oddeutu 56 mlwydd oed, wedi hir gystudd, Mrs. Ann Davies, priod Pierce Davies, yr hwn, gyda phump o blant, dwy chwaer ac un brawd, a llu o berthynasau, sydd yn alarus iawn ar ei hol.

Ganwyd Mrs. Davies yn Pennal, Sir Feirionydd, ac yno yr ymunodd â chrefydd yn dra ieuanc, gyda'r Wesleyaid, a glynodd yn ei phroffes yn ffyddlon yn ôl ei gallu hyd y diwedd.

Ei henw morwynol oedd Roberts. Mae ei brawd, Mr. Roberts, yn byw yn Nghymru, a'i chwaer hynaf, Mrs. Roose, yn byw yn ninas New York, ac a ddaeth yr holl ffordd i gael golwg ar ei chwaer cyn ei marw. Mae y chwaer arall, Mrs. Griffiths, yn byw yn ardal Sugar Creek, Putnam, County, Ohio, ac yn aelod ffyddlon yn eglwys y M. C. yno. Bu hithau yn gweini yn ffyddlon ar ei chwaer am wythnosau, nos a dydd, hyd y diwedd.

Ymunodd Mrs. Davies mewn priodas gyda Pierce Davies tua 16 mlynedd yn ôl, a phrynasant dyddyn yn yr ardal hon a gwnaethant gartref cysurus iddynt eu hunain. Yn fuan ar ôl priodi ymunodd Mr. Davies â chrefydd, a bu hyny yn gysur ac yn help mawr iddi godi y plant i fyny yn addysg yr Arglwydd. Bu y teulu yn help mawr i gynal yr achos yn Leatherwood, trwy fod yn ffyddlon a haelionus yn eu cyfraniadau; gobeithio y gwnant eto barhau yn y gwaith da.

Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol. Dygwyd ei chorff i gapel Bethel, lle bu yn addoli am flynyddau. Pregethodd y Parch. J. G. Thomas, Lima, Ohio, yn Gymraeg, oddiar y geiriau, "Bydd ffyddlon hyd angau," a.y. Claddwyd hi yn mynwent Leatherwood, lle gweinyddodd yr un gŵr parchedig. Yr oedd yn angladd lluosog a pharchus iawn.
JOHN R. DAVIES.

Y Drych ~ Medi 8fed 1898.