MISS. JANE DAVIES. 312 West 76TH STREET, NEW YORK.

Rhagfyr 9fed, yn ei phreswylfod, rhif 306 4th Street, New York, y chwaer anwyl a duwiol, Miss Jane Davies, diweddar o rhif 312 West 76th Street.

Genedigol ydoedd o Tai'r Frest, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i Poultney, Vermont, yn 1870, a bu yn gwasanaethu yno aml flynyddau mewn teulu parchus a chyfoethog, pryd y gwnaeth argraff annileadwy ar feddyliau ei chydnabod ei bod yn foneddiges drwyadl, cymydioges garedig ac aelod teilwng o eglwys Crist.

Gan nad oedd yno eglwys Gynulleidfaol ymunodd a'r eglwys Fethodistiaidd, lle y bu yn nodedig o ymdrechgar a ffyddlawn. Daeth i'r ddinas hon oddeutu ugain mlynedd yn ôl, a threuliodd y rhan fwyaf o'r cyfnod yna yn ngwasanaeth yr un teulu. Fel aelod crefyddol gwnaeth ei chartref gyda'r brodyr a'r chwiorydd yn llth Street, a phrofodd ei hunan yn un o'r aelodau mwyaf gweithgar ffyddlawn a selog o fewn yr eglwys.

Gweithiodd yn dawel a pharhaus. Roedd bob amser yn un o'r rhai cyntaf i gynorthwyo pob symudiad teilwng o fewn yr eglwys, ac yn y dosbarth blaenaf o ran ei chyfraniadau. Bu yn fam yn ngwir ystyr y gair i ddegau o ferched ieuanc a dibrofiad a ddeuent, drosodd o Gymru a gwahanol ardaloedd gwledig yn y wlad hon. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth" yn mhob cyfeiriad daionus.

Y Sabboth blaenorol i'w marwolaeth yr oedd yn cyd-addoli â ni yn 11th St. fel arfer. Wrth fyned adref y noswaith hono cafodd anwyd trwm, yr hwn a ddadblygodd yn pneumonia, ac yn y diwedd a brofodd yn angeuol iddi.

Am 6:30 prydtnawn y Sabboth dylynol i'w marwolaeth deuwyd a'i gweddillion i'r capel, pryd y cynaliwvd gwasanaeth angladdol. Yr oedd y dorf luosog, a ddaeth yn nghyd a'u pleth-dorchau lluosog, prydferth a drudfawr, y rhai a orchuddient y platform,, yn datgan yn eglur fod rhyw un nodedig wedi ei chymeryd ymaith. Anmhosibl oedd arddangos mwy o barch i weddillion neb nag a wnaethpwyid ar yr amgylchiad hwn gan y cyfeillion yn New York.

Wedi terfynu y gwasanaeth yn y capel aethpwyd a'r corff i'r Grand Central Depot, ac oddiyno i'r gladdfa gyhoeddus yn Fair Haven, Vermont. Yn nghapel y Cynulleidfaolwyr yno am 2 o'r gloch dydd Llun, ar y ffordd i'r gladdfa, cynaliwyd gwasanaeth crefyddol draichefn, lle yr oedd tyrfa luosog wedi ymgasglu i dalu y gymwynas olaf i'r ymadawedig. Gwasanaethwyd yno gan y Parchn. Williams a Thomas, Fair Haven; Edwards, Granville; Nathaniel, Poultney, a'r ysgrifenydd. Dangoswyd pob cydymdeimlad a pherthynasau yr ymadawedig yn New York a Fair Haven.

Yr oedd i'n chwaelr air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hunan.
TUDWEL.

Y Drych ~ Rhagfyr 29ain 1898.