MRS. ELIZABETH H. EDWARDS. RACINE, WISCONSIN.

Mawrth 10fed, 1898, yn Racine, Wisconsin, Mrs. Elizabeth H. Edwards, yn 69 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn Tai Newyddion, plwyf Llanfihangel, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Ei rhieni oeddynt Evan a Gwen Evans. Ymfudodd hi i'r Talaethau Unedig yn 1854, ar ôl priodi Hugh H .Edwards o Towyn, Meirionydd, yr hwn fu farw yn hynod o sydyn Rhagfyr 20fed, 1896. Ymsefydlasant yn nghymydogaeth Racine, ac yma y treuliasant y gweddill o'u bywyd.

Ganwyd iddynt bedwar o blant - tri o'r rhai sydd gartref, sef Hugh R., adeiladydd llwyddianus; Margaret a Winnie; ac Anne, yn briod â John M. Roberts o'r ddinas. Maent oll yn proffesu crefydd ac yn barchus yn mysg eu cydnabyddion. Derbyniwyd Mrs. Edwards yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol Medi 7fed, 1890, gan y Parch. Thomas Evans. Yr oedd trwy ei hoes wedi byw yn awyrgylch dylanwadau crefyddol, ac yn meddu parch dwfn i grefydd a'i hordiniadau. Cynysgaeddwyd hi a synwyr cryf, gallu ymddyddanol a thuedd gyfeillgarol, mwy na'r cyffredin; ac yr oedd yn barchus ac anwyl yn mysg ei chyfeillion lluosog. Meithrinodd dueddfryd at ddarllen, a meddai gydnabyddiaeth eang o'r Oraclau Dwyfol.

Cymerwyd hi yn glaf Mehefin, blwyddyn i'r ddiweddaf, a chafodd hir gystudd, ond yr oedd yn hynod o ymostyngol i ewyllys a goruchwyliaethau ei Harglwydd tuag ati. Profodd yn helaeth o ddyddanwch yr Ysgrythyrau "trwy y misoedd o oferedd, a'r nosweithiau blinion a osodwyd iddi," fel nad "ofnai niwed wrth rodio glyn cysgod angeu."

Bu ei phriod yn nodedig o ofalus am dani trwy ei holl gystudd, am yr hyn yn ddiau ni chollant eu gwobr. Daeth tyrfa luosog iawn i dalu y gymwynas olaf o barch iddi. Gweinyddwyd yn y tŷ ac yn yr addoldy yn briodol gan y Parch. R. T. Roberts, M. A., a Thomas Evans. Y mae un chwaer i'r ymadawedig yn fyw, Mrs. Margaret Davies, yr hon gartrefa yn Abermaw.

Y Drych ~ Mawrth 24ain 1898.